This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Awdur: Jerry Hunter
- Fformat: Clawr meddal
- Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2007
Hanes Robert Everett a'r Ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth Americanaidd.
Yn ôl llawer, Robert Everett oedd Cymro enwocaf America. Llafuriai dros nifer syfrdanol o achosion: yr ymdrech i greu a chynnal traddodiad llenyddol Cymraeg yn yr Unol Daleithiau; achos crefydd ymysg Cymry; direst a hawliau merched.
Ond roedd Cymry America'n ei gofio’n bennaf am ei waith diflino dros un achos, sef diddymiaeth - yr ymgyrch i ddiddymu caethwasanaeth.
Erbyn i Ryfel Cartref y wlad ddechrau yn 1861 roedd pedair miliwn o bobl dduon yn gaeth ac felly’n eiddo i Americanwyr eraill.
Am dros 40 mlynedd bu Robert Everett yn taflu’i bwysau moesol a deallus y tu ôl i’r ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth, gan ddefnyddio’r pulpud, yr ysgrifbin, y wasg argraffu a’r blaid wleidyddol er mwyn radicaleiddio Cymry America a’u byddino yn erbyn y drefn anfoesol honno.
Gwybodaeth am yr awdur:
Mae Jerry Hunter yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor. Hwn yw ei drydydd llyfr Cymraeg.
Rhoddwyd ei gyfrol gyntaf, Soffestri’r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid (Gwasg Prifysgol Cymru) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001.
Enillodd ei ail lyfr, Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (Gwasg Carreg Gwalch), y wobr honno yn 2004.