This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Llên Gwerin T. Llew Jones (Llafar Gwlad 75)

  • £8.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845272647
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2010
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 248 tudalen

Detholiad o ysgrifau llên gwerin a gyhoeddwyd yn Llafar Gwlad, ac o gyfrolau o waith T. Llew Jones - Hen Gof, Slawer Dydd a Berw Gwyllt yn Abergwaun. Adrodd rhai o hen chwedlau Cymru yn ei ffordd ei hun oedd un o'r pethau cyntaf a wnaeth T. Llew fel awdur.

Gwybodaeth Bellach:
Yn ystod chwarter canrif olaf ei oes, troes T. Llew Jones fwyfwy at fyd chwedlau, llên gwerin a choelion llafar gwlad. Deuai atgofion yn ôl iddo, daliai i ymchwilio a phendroni uwch hen arferion a welsai ac a glywsai a rhoddai nhw ar bapur ar gyfer y cylchgrawn Llafar Gwlad oedd yn agos iawn at ei galon. Deuai llythyrau byrlymus gyda’r ysgrifau, byddai ar y ffôn weithiau, yn llawn brwdfrydedd ac afiaith wedi llwyddo i ddatrys darn bach o jig-so mawr ein gorffennol ni.