This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Golygydd: Myrddin ap Dafydd
- Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2005
- Fformat: Clawr Meddal, 210x149 mm, 88 tudalen
Adolygiad Gwales
Mae cael busnesa yng nghartrefi pobl eraill wedi mynd yn un o’n hobsesiynau cyfoes. Os os gennych amser ac amynedd i neidio o sianel i sianel ar deledu lloeren, mi gewch eich gwala o gartrefi o bob math ym mhob man. Allwn ni ddim peidio â’u gwylio.
Dyna gewch chi yn y gyfrol hon hefyd, cyfle i ymweld ag un cartref gwledig yng Nghymru. Ond mae i’r cartref hwn ei stori arbennig ei hun i’w hadrodd, stori sy’n cael ei hadleisio trwy bob cenedl sydd wedi anfon ei phlant i ryfel erioed. Oes, mae gan yr Ysgwrn stori a neges i bawb ohonom. Nid mynd yno i edmygu’r lle tân hen ffasiwn na’r gwaith coed tywyll y bydd pobl, ond yn hytrach mynd i gofio mab enwocaf y fferm arbennig hon, y mab na ddaeth yn ôl o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Trwy gyfrwng lluniau, llythyrau, erthyglau a phytiau o farddoniaeth cawn ddod i adnabod yr Ysgwrn ei hun, y teulu diwylliedig fu’n byw yno ar hyd y blynyddoedd, a dysgu am anferthedd eu colled pan ddaeth y newydd am farwolaeth Hedd Wyn ar Gefnen Pilkem.
Pa ffordd well gewch chi o ddysgu am ddigwyddiadau hanesyddol na trwy ddarllen geiriau ac ymateb y bobl oedd yn byw trwyddynt? Mae’r disgrifiadau o Eisteddfod Penbedw a seremoni’r cadeirio yn wirioneddol ddirdynnol.
Mae hon yn gyfrol i bawb, o’r rhai sydd wedi clywed yr hanes ond am wybod mwy, i’r rhai nad ydynt yn gwybod dim am y cefndir. Dyma ffynhonnell ddihysbydd ar gyfer unrhyw un sydd am geisio cyfleu beth yw gwir ystyr y gair rhyfel.
Mae ein dyled yn fawr i deulu’r Ysgwrn am gadw’r holl ddeunyddiau yma gyda’i gilydd a diolch i Wasg Carreg Gwalch am weld yn dda i’w cyhoeddi.
Beryl Griffiths