This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Moelfre a'r Môr - Ffarwel i'r Grassholm Gribog

  • £12.00
  • £0.00
  • ISBN: 9781845272456
  • Awdur: Robin Evans
  • Cyhoeddi Tachwedd 2009
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 166 tudalen

Disgrifiad Gwales
Mae pentref Moelfre, ar arfordir dwyreiniol Môn, yn un o gymunedau morwrol mwyaf adnabyddus Cymru. Ceir yn y gyfrol hon agweddau ar ddwy ganrif o hanes cymuned forwrol Gymreig pentref Moelfre a phlwyf Llanallgo rhwng 1750 a 1950.

Gwybodaeth Bellach:
Mae pentref Moelfre, ar arfordir dwyreiniol Môn, yn un o gymunedau morwrol mwyaf adnabyddus Cymru. Cynhyrchodd y pentref genedlaethau o forwyr, gyda’r tad a’r meibion mewn sawl cartref yn gapteiniaid llongau, rhai yn hwylio’r glannau ac eraill yn hwylio ar led. Bu pysgota yn rhan greiddiol o fywyd y gymuned ac, wrth i’r diwydiant hwnnw grebachu, trodd y pentrefwyr i gyfeiriad twristiaeth – datblygiad oedd yn nodweddu cymaint o bentrefi pysgota ar draws cyfandiroedd. Ond ni ddylai’r golygfeydd godidog o Foelfre ar ddiwrnod braf o haf ein twyllo rhag anghofio peryglon y môr. Cafwyd sawl llongddrylliad oddi ar arfordir Moelfre, gan gynnwys yr enwog Royal Charter a suddodd yn 1859 a chollwyd nifer o hogiau’r pentref ei hun mewn moroedd pell ac ym mae Moelfre ei hun. Ar y llaw arall, bu’r pentref yn gartref i fad achub am bron i ddwy ganrif. Adlewyrchir gwrhydri gwŷr bad achub Moelfre yn y cerflun enwog o Gocsyn Dic Evans, un o nifer o ddynion y pentref i dderbyn cydnabyddiaeth am eu gorchestion wrth frwydro stormydd peryglus i achub bywydau.

Yn y llyfr hwn casglwyd ynghyd nifer o erthyglau ac ysgrifau sy’n cyflwyno agweddau ar hanes morwrol Moelfre a phlwyf Llanallgo yn ystod y cyfnod 1750-1950. Ond nid hanes plwyfol a geir yma achos mae profiadau a hanes Moelfre a’i phobl yn ein cyflwyno i hanes morwrol cymaint o bentrefi bychain glannau Cymru a thu hwnt.