This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Pethau Patagonia

  • £7.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845275389
  • Fred Green
  • Cyhoeddi Mehefin 2015
  • Golygwyd gan Esyllt Nest Roberts
  • Fformat: Clawr Meddal, 184x124 mm, 200 tudalen
Argraffiad newydd o atgofion Fred Green, ffermwr o\'r Wladfa, gyda phenodau a lluniau ychwanegol. 39 llun du-a-gwyn.

Gwybodaeth Bellach:
Fe ddisgrifiwyd awdur y gyfrol hon unwaith fel ‘gaucho Cymreig soffistigedig’! Un o blant y paith oedd Fred Green, wedi ei fagu ar dir Patagonia ond gyda’i wreiddiau’n gadarn yn naear yr Hen Wlad.
Yma ceir darlun o fywyd yn y Wladfa yn ystod rhan helaeth o’r ugeinfed ganrif. Ceir atgofion ac argraffiadau un a aned ac a dreuliodd ei blentyndod ym mro’r Gwladfawyr cyntaf yn Nyffryn Camwy, cyn symud yn llanc ifanc i ffermio ynghanol unigeddau’r paith. Yna daeth tro ar fyd eto pan briododd a sefydlu yng Nghwm Hyfryd ym mynyddoedd yr Andes. Magodd bedwar o blant ar aelwyd Gymraeg ddiwylliedig, gan eu trwytho hefyd yn nhraddodiadau eu mamwlad, ac yn y gyfrol hon cawn gip ar hanes y teulu, y brodorion lleol, ac elfen gref o fyd natur a’r natur ddynol.

Cofia Twm Morys gyfarfod â’r awdur yn ystod taith i Batagonia yn 1999: ‘Dyna lle’r oedd yr hen ŵr mwyn o flaen ei dŷ ar y poncyn, a’i ŵn nos amdano, a slipars, a sbectols du a chap bêsbol ... “A dach chi wedi gweld fy ieir i, hogia?” meddai ... Roedd o’n byrlymu o ddireidi a doedd dim pall ar ei gof.’ Yn wir, mae’r direidi hwnnw a’r atgofion yn byrlymu rhwng cloriau Pethau Patagonia.
Yn yr argraffiad diwygiedig hwn – sy’n cynnwys atgofion gan deulu’r awdur a chyfaill i’r teulu – dyma ailgyflwyno un o gymeriadau mwyaf lliwgar y Wladfa i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr sy’n ymddiddori yn y gornel Gymreig unigryw hon o Dde America.