This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845273781
- Rob Piercy
- Cyhoeddi Gorffennaf 2012
- Fformat: Clawr Caled, 216x262 mm, 128 tudalen
Ambell dro mae rhywun yn codi cyfrol sydd yn bleser i gydio ynddi ac yn bleser i fodio ei thudalennau hirion, a chyfrol felly yw Portmeirion. Mae’n gyfrol sylweddol ei maint – dros gant ac ugain tudalen hyfryd, clawr caled, papur moethus a lluniau i wirioni arnynt. Cyfrol gan artist yw hon yn sylfaenol, gyda llu o luniau bach a mawr o Bortmeirion yn gorlifo o liwiau.
Ond nid cyfrol o luniau yn unig a geir yma; mae Rob Piercy yn cael hwyl dda ar ysgrifennu yn ogystal. Yn hogyn o Borthmadog, mae ganddo atgofion plentyn am sleifio i’r pentref dros y penrhyn. O ganlyniad, mae ganddo flynyddoedd o brofiad o ymweld â’r pentref rhyfedd hwn. Mae’n ei gofio mewn gwahanol gyfnodau, yn llawn apêl, yn dadfeilio’n araf neu yn cael ei sbriwsio. Un o’r pethau sy\'n gwneud argraff ar y darllenydd yw’r ffaith bod Rob Piercy wedi rhyfeddu at ddawn a chrefft Clough Williams-Ellis yn creu pentref mor unigryw.
Mae’r gyfrol yn cyfuno atgofion, sylwadau a lluniau Rob Piercy a cherddi gan Myrddin ap Dafydd ac mae’r amrywiaeth hwnnw yn beth amheuthun. Yn y bennod gyntaf cawn nifer fawr o atgofion personol. Mae’r ysgrifennu yn dal drama yr hogyn ifanc yn sleifio i’r lle gwaharddedig, heb sôn am bortreadu’r llanc yn gwirioni ar weld yr adeiladau amryliw rhyfedd. Dro arall rydym ninnau yn mentro gyda Rob Piercy drwy’r llwyni rhododendron tywyll ac yn syllu ar y golygfeydd.
Cyfrol yw hon sydd yn rhoi cipolwg ar y byd drwy lygaid yr artist. Rhydd olwg i ni ar dechneg Rob Percy wrth iddo drafod pwysigrwydd y blaendir, ac weithiau gesyd yr annisgwyl megis rheilen grisiau i feddiannu’r blaendir. Dro arall mae’n gadael y blaendir yn foel rhag denu sylw oddi wrth y tirlun. Yn ogystal â’r bennod ar y tirlun, mae ’na bennod hynod o ddeniadol am y ‘Pethau Bychain’, penodau byrion wedyn am adeiladau unigol ac un bennod i gloi am bobl ym Mhortmeirion. Paragraff annwyl yw’r un am fur coch neuadd Erclwff, mur a oedd mewn cyflwr gwael cyn tacluso’r pentref. Mae’r awdur yn cofio’r mur yn ‘dirywio’n fawreddog’ ac mae’n cyffesu, ‘cefais fflyrt hir gyda’r mur arbennig hwnnw ... roedd hi’n ddiwrnod trist pan gafodd ei baentio yn y diwedd.’ Dyma artist sydd yn mwynhau trin geiriau yn ogystal â thrin brwsh.
Ond os yw Rob Piercy yn trin geiriau’n gelfydd, y lluniau yw gogoniant y gyfrol. Mae maint y dalennau\'n rhoi ehangder i’r lluniau, yn enwedig y tirluniau. Rhy pwysau’r papur bleser i chi wrth fodio’r tudalennau ac y mae cymeriad yr artist yn byrlymu trwy\'r gyfrol hyfryd hon.