This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Rapa: Anturiaethau Cymro Ifanc Ym Moroedd y De

  • £8.50
  • £0.00
  • Rapa: Anturiaethau Cymro Ifanc Ym Moroedd y De
  • ISBN: 9781845278694
  • Alwyn Harding Jones
  • Cyhoeddi: Tachwedd 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 140 tudalen

Ddeng mlynedd ar hugain wedi marwolaeth ei daid, etifeddodd Alwyn Harding Jones lyfr mae'n ei drysori'n fawr: copi o ddyddlyfr y Capten John Hughes o Twthill, Caernarfon, yn llawysgrifen ei daid, yn disgrifio mordaith helbulus pan losgwyd ei long, The Inverness, yn 1918.

Bywgraffiad Awdur:

Fel arfer, 'Iawn, boi?' ydy'r cyfarchiad cyntaf gewch chi gan Alwyn Harding. Pensaer wedi arbenigo mewn cadwraeth adeiladau ydoed wrth ei alwedigaeth. Mae'n byw yn Ffynnon Taf ger Caerdydd ers dros ddeugain mlynedd hefo'i wraig Angharad, ac wedi magu tri o blant. Mae'n dal yn falch o'i wreiddiau fel Cofi.

Ar ôl ymddeol, mae'n teithio yn y 'camper' bob cyfle gaiff, yn ogystal â mynychu gigs a bwyta bwyd da!

RAPA: Anturiaethau Cymro ym Moroedd y De yw ei lyfr cyntaf.

Gwybodaeth Bellach:

Roedd Thomas Harding Jones, taid Alwyn, yn llongwr deunaw oed ar yr Inverness. Achubwyd y criw o'r llongddrylliad, a threuliasant 46 diwrnod ar ynys bellennig Rapa ym Môr y De. Ond nid nhw oedd y Cymry cyntaf i lanio yno ... Drwy gyfrwng y dyddlyfr, papurau ei daid, blynyddoedd o waith ymchwil a mymryn o ddychymyg, mae Alwyn yn adrodd hanes yr anturiaethau hyn yn llais ei Daid Rapa.