This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Rhyfel Ni - Y Cymry a'r Patagoniaid yn y Malvinas

  • £2.00
  • £7.00
  • ISBN: 9780863818608
  • Awdur: Ioan Roberts
  • Cyhoeddi Tachwedd 2003
  • Fformat: Clawr Meddal, 122x182 mm, 209 tudalen

Cyfrol i ysgogi teimladau cymysg yn olrhain profiadau ac atgofion Cymry ac Archentwyr yn ystod Rhyfel y Malvinas yn 1982, yn cynnwys cyfweliadau gyda theuluoedd cyffredin ynghyd â milwyr a ymladdodd ar y ddwy ochr, gydag ymatebion a barn rhieni a gollodd feibion yn y rhyfel. 56 ffotograff du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Gorfod mynd i chwilio am yr ynysoedd ar ei glôb enfawr ym mhen draw ei swyddfa wnaeth Syr John Nott, yr Ysgrifennydd Amddiffyn adeg Rhyfel y Falklands/Malvinas, a dyna fu profiad sawl un ohonom ’nôl ym 1982.

Yn y gyfrol Rhyfel Ni gan Ioan Roberts, fe gawn atgofion gan y rhai fu ar y ffrynt lein – yn eu plith milwyr fu’n ymladd ar ddwy ochr y rhyfel, rhieni a gollodd blant, newyddiadurwr, plentyn a nyrs. Wrth gwrs, yr hyn sydd o ddiddordeb penodol yw’r dimensiwn Cymreig a’r effaith ar drigolion Cymru a Phatagonia gan i filwyr o dras Gymreig fod yn ymladd ar ochr Prydain a’r Ariannin, oherwydd cysylltiad y Wladfa.

Cawn glywed beth oedd teimladau pobl ar y pryd, a’u hymateb ugain mlynedd yn ddiweddarach. Ac fe gawn sylwadau gonest. Wrth sôn am y parti a drefnwyd i groesawu’r milwyr yn ôl, sylw Michael John Griffith ydi, 'neis ar y pryd, ond wrth sbio’n ôl cael eich iwsio dipyn bach oeddach chi a deud y gwir'.

Gwelodd eraill hefyd ystyr propaganda. Er gwaetha’r hyn a glywid ar gyfryngau’r Ariannin ar y pryd eu bod yn ennill y rhyfel, roedd realiti maes y gad yn wahanol. Roedd blerwch militaraidd yr Ariannin yn amlwg i’r milwyr, ac amodau byw rhai ohonynt yn druenus, fel y tystia Horacio Jose Kent o Drelew.

Ond nid llyfr digalon na sych mohono chwaith – mae cyfweliadau Wil, sy’n berchennog Wil Go Cabs, Llanfairfechan bellach a Howard ‘Joskin’ o’r Felinheli yn profi hynny’n syth. Dyma ddau sy’n gweld eironi a doniolwch mewn sefyllfa. Er, fel cyllell i gloi atgofion Wil, ceir y sylw – 'fedri di ddim fforddio cael cydwybod wrth fynd i ryfel'.

Mae empathi hefo’r 'ochr arall' yn elfen gref gan sawl cyfrannwr. Cogydd ar yr HMS Ardent ers chwe wythnos oedd Raymond o Lanberis, a gollodd ei fywyd wedi i Awyrlu’r Ariannin ymosod ar y llong. Ymateb greddfol ei dad oedd cydymdeimlo’n syth â rhieni’r 400 a gollodd eu bywydau ar y Belgrano.

Fe bwysleisir gan sawl un mai ofer fu’r colledion ar y naill ochr a’r llall, ac mai brwydr i hybu delweddau personol Galtieri a Thatcher oedd wrth wraidd y gweithredu. 'Mi wnaethon ni yn union beth oedd Mrs Thatcher isio inni ei wneud, ac mi gostiodd hynny’n ddrud iawn i’r ddwy ochr,' meddai Ronnie Gough, gyda 'llawer o ddiodde i ddim byd,' yn ôl Carlos Eduardo ap Iwan.

Dyma leisiau go-iawn rhyfel go-iawn, gyda phwyslais ar y profiad Cymreig mewn cyd-destun rhyngwladol. Cyfraniad gwerthfawr, felly, i unrhyw gofnod hanes modern.

Branwen Niclas