This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

'Tawelwch!' Taranodd Miss Tomos

  • £3.75
  • £0.00
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 72 tudalen

Casgliad o farddoniaeth amrywiol i blant, yn cynnwys dros 40 o gerddi doniol gan 16 o feirdd yn portreadu hwyl a helynt dyddiau ysgol, wedi eu darlunio'n llawn â chartŵnau doniol; i blant 7-11 oed.

Adolygiad Gwales
Ceir 42 o gerddi yn y gyfrol hon a fydd yn apelio at blant, athrawon ac oedolion eraill hefyd gan fod gan bob un ohonom brofiad o dreulio blynyddoedd yn y lle gwallgof-drefnus a elwir yn ysgol. Mae nifer o’r cerddi yn ysgafn ac yn ddigri, gyda chlyfrwch geiriol a chwarae â rhesymeg yn amlwg ynddynt – o ymddygiad athrawon ar hyd y canrifoedd i’r fwydlen oesol wael yn y cantîn.

Ceisir hefyd edrych ar agweddau llai pleserus bywyd ysgol – fel arholiadau, rheolau gwallgof ac annhegwch. Ceir cerddi sy’n edrych ar wahanol fathau o fwlian – o fwlian corfforol ymhlith plant ar fuarth yr ysgol i’r bwlian seicolegol a weinyddir yn aml gan athrawon o fwlis yn y dosbarth.

Adlewyrchir bwrlwm y syniadau yn y gyfrol gyda lluniau bywiog Siôn Morris sy’n cyd?fynd â naws pob cerdd. Yn ddi-os, bydd defnydd helaeth o’r cerddi yma yn y dosbarth a’r eisteddfod – heb sôn am y cyngerdd ysgol bondigrybwyll!

Mari Rhian Owen