This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Walia' Gwalia

  • £12.50
  • £0.00
  • Walia' Gwalia
  • ISBN: 9781845276645
  • Malcolm 'Slim' Williams
  • Cyhoeddi Hydref 2018
  • Fformat: Clawr Meddal, 230x278 mm, 144 tudalen
Cerrig, brics a hanes Cymru. Mae waliau'n cwmpasu holl gyfnodau ein hanes - o fryngaerau Celtaidd, i gestyll Normanaidd, i amaethu'r ffriddoedd, i'r Chwyldro Diwydiannol a'r bywyd dinesig cyfoes. Ar ben hynny, mae hanesion penodol yn gysylltiedig â rhai waliau.

Gwybodaeth Bellach:
Yn ystod fy ngyrfa fel cyfarwyddwr rhaglenni teledu, yn enwedig 'Cefn Gwlad' yng nghwmni Dai Jones Llanilar i S4C, a 'History Hunters' gydar diweddar John Davies Bwlch-llan ir BBC, bues yn ffodus i gael teithio i bob cwr o Gymru, yn wlad a thref. Yn aml wrth edrych ar y golygfeydd o 'mlaen deuai geiriaur diweddar Athro Gwyn Alf Williams i 'ngof: If you love Wales youve got to love every sod of her. Tyfodd fy hoffter, na, fy nghariad tuag at dirlun amrywiol Walia Wen, a byddwn yn profi golygfa ddramatig weithiau, un fwyn ar adegau eraill, ond byth yn cael fy siomi.

Dros y blynyddoedd fem swynwyd gan un elfen arbennig - elfen ag iddi amrywiaeth eang. Yr elfen honno? Wal! Neun hytrach y waliau sydd ar hyd a lled y wlad, yn ein dinasoedd, yn ein trefi a glannau môr ac yn yr uchelfannau mynyddig. Mae ein rhagflaenwyr wedi gadael etifeddiaeth gref a diddorol o waliau i ni; waliau o bob lliw a llun, pob un yn unigryw ag iddi hanes arbennig, stori syn gorwedd yn fud yn ei cherrig. Fem cyfareddwyd gan y gwahaniaethau yn arddull a chynllun waliau o sir i sir, yn sgil defnyddio carreg leol.

Enghreifftiau trawiadol ac unigryw ywr ffensys llechi glas y crawiau a welir yn ardaloedd chwareli Gwynedd. Yn ystod yr holl grwydro byddai camera a llyfr nodiadaun hwylus gerllaw i gofnodi waliau difyr ac yn ysgogiad i mi ymchwilio.

Byddaf yn rhyfeddu at hyd ambell wal syn ymestyn dros fryn i waelod cwm er mwyn dynodi ffin a therfyn tiriogaeth, ac yn synnu at uchder sawl wal syn datgan 'cadwch allan'. Synnaf wrth feddwl am y sawl a gododd aml i faen iw lle, ar nerth bôn braich oedd ei angen i wneud hynny. Clywais am yr arfer o godi wal orchest gan y diweddar Barchedig Robin Williams.

Does dim dwywaith nad yw waliaun datgan rhywbeth am eu perchnogion hefyd. Wal syn sgrechian 'fi fawr' yw wal yr anifeiliaid, syn arwain at d?r cloc castell Caerdydd, a noddwyd gan y trydydd Marcwis Bute.

Maen deg gofyn lle fydden ni heb waliau yn yr awyr agored neu o dan dd?r, o bosib? Ystyriwch y nifer, yr amrywiaeth, y lliw, y llun, y pwrpas sydd i waliau. Waliau in cadw i mewn, in caethiwo, in cadw allan, i ddynodi lleoliadau at bwrpas arbennig ym meysydd crefydd, amaeth; yn anheddau, carchardai, ysbytai, tai mawr a thai bach, a senedd-dai! Pwy au hadeiladodd, pryd, sut a pham? Difyr iawn ywr gwaith ymchwil i geisio ateb rhai or cwestiynau hyn a datrys dirgelion rhai or waliau, ond nid pob un o bell ffordd.

Roedd crynhoi toreth o luniau, deunydd blynyddoedd, iw cynnwys yn y llyfr hwn yn llafur cariad, a sylweddolais eto fy mod yn caru pob tywarchen ohoni.
SLIM