This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845272449
- Cyhoeddi Chwefror 2010
- Golygwyd gan Anwen Jones, Myrddin ap Dafydd
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 300 tudalen
Disgrifiad Gwales
Bwriad y gyfrol deyrnged hon i W. S. Jones, neu Wil Sam, yw dathlu ei gyfraniad aruthrol i'r ddrama, y theatr, i deledu ac i ffilm, yn wir i ddatblygiad y diwylliant modern yng Nghymru. Mae'r gyfrol yn un gynhwysfawr o safbwynt cynnwys ac arddull. Ceir cyfraniadau gan amryw o'r rhai a ddaeth i gyswllt â gwaith Wil Sam neu, wrth gwrs, â'r dyn ei hun.
Gwybodaeth Bellach:
Mae golygyddion y gyfrol, Dr Anwen Jones a Myrddin ap Dafydd, yn falch iawn i gynnwys cyfraniadau gan aelodau o deulu W. S. Jones, ei ferch Elin, a fu’n hanfodol i lwyddiant ei ddrama olaf un, Halibalŵ, a Gwyn Eiddior, ei ŵyr sydd wedi dylunio mor effeithiol ar gyfer cynifer o gynyrchiadau diweddar o’i waith. Ceir ysgrifau gan Alun Ffred, AC a’r Dr Harri Pritchard Jones, Gruffudd Owen, Twm Miall ac Ioan Roberts ymhlith eraill a chyfraniadau hwy gan Myrddin ac Anwen eu hunain, gan Twm Morys a gan Dr Kate Woodward. Bwriedir i’r gyfrol ddigoni’r angen i gydnabod cyfraniad un o fawrion creadigol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, William Samuel Jones, Tyddyn Gwyn, Rhoslan, 1920-2007.