This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

'Y Mae y Lle yn Iach' - Chwarel Dinorwig 1875-1900

  • £8.00
  • £0.00
  • 'Y Mae y Lle yn Iach' - Chwarel Dinorwig 1875-1900
  • ISBN: 9781845277284
  • Elin Tomos
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 152 tudalen

Mae'r gyfrol yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal pobl yn ardaloedd y llechi yn Nyffryn Peris a thu hwnt. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth, roedd dros 14,000 o chwarelwyr yng Ngwynedd. Roedd peryglon y gwaith a'r heintiau a'r afiechydon a godai o'r tlodi a'r diffyg darpariaeth iechyd, yn cyfrannu at anghydfodau diwydiannol.

Gwybodaeth Bellach: Pan oedd y diwydiant ar ei anterth, roedd dros 14,000 o chwarelwyr yng Ngwynedd. Roedd peryglon y gwaith a'r heintiau a'r afiechydon a godai o'r tlodi a'r diffyg darpariaeth iechyd, yn cyfrannu at anghydfodau diwydiannol. Arweiniodd hefyd at greu cymdeithas glòs, ofalus o'i gilydd a sefydlu ysbytai chwarel. Defnyddiodd Elin Tomos, sy'n enedigol o Nant Peris, erthyglau papur newydd, llythyrau personol, rhestrau bedyddio a chladdu'r plwyf, cofnodlyfrau meddygol, cofnodion pwyllgorau a chymdeithasau amrywiol, papurau llywodraethol a chanfyddiadau ymholiadau swyddogol er mwyn canfod yr hanes. Yng nghalon y gyfrol mae casgliad arbennig o ffotograffau a gynhwyswyd gyda'r bwriad yn anad dim i gyfleu naws yr ardal a'r cyfnod.

"Mae'r gyfrol deimladwy ac arloesol yma yn fodd i ddangos nad oedd hi'n nefolaidd ar bawb. Mae hefyd yn codi cwr y llen ar fywydau merched mewn ardal lle mae profiad gwaith dynion wedi cuddio eu cyfraniad a'u stori'n llwyr." - Dafydd Roberts, Amgueddfa Lechi Cymru