This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad Y Cylch Cyfrin

Adolygiad Y Cylch Cyfrin

Adolygiad o Y Cylch Cyfrin, Derfel F. Williams gan Siân Thomas

 

Maen nhw’n dweud wrtha i ei bod yn freuddwyd i nifer o blant i ymuno â’r syrcas. Rhamant y ‘big top’ yn orlawn o berfformwyr o bedwar ban yn eu dillad lliwgar, yn marchogaeth ceffylau ac eliffantod, yn rheoli llewod peryglus, neu’n hongian yn osgeiddig o siglen y trapeze, a cherdded yn hyderus ar draws weiren uchel. I’r mwyafrif ohonon ni mae’r byd hwn yn rhywle fyddwn ni’n ymweld ag e pan ddaw’r syrcas i’r dre, neu’n gwylio ar deledu, ond i awdur Y Cylch Cyfrin, roedd y byd hwn yn realiti, ac yn ffordd o fyw iddo am flynyddoedd lawer. Iddo ef, gwireddwyd y freuddwyd. Pwy well felly i’n tywys ni i fyd y syrcas go iawn – y byd tu ôl i’r secwins a’r llwch llif. Yma fe gawn stori tair cenhedlaeth o’r un teulu, a’u cylch estynedig. Dyma gymeriadau cig a gwaed y syrcas – ambell un yn dianc o fywyd, eraill yn cuddio ac yn trio anghofio erchyllterau’r gorffennol, ac yn ffeindio cartref o dan gynfas y babell fawr, a theulu o fewn muriau sigledig carafán. Wrth ddilyn hanesion y teulu Vogel/Davies fe gawn ni weld shwd mae’r ffordd o fyw unigryw hwn yn gorfod newid ac addasu, a hynny nid er gwell bob amser. Mae’r awdur yn deall y cymeriadau yma – yn eu nabod nhw bob un, ac nid y rhai â dwy goes yn unig. O’r bennod gyntaf oll, mi syrthiais mewn cariad gyda Dilys, ac mae ei hanes hi’n britho’r stori o’r dechrau i’r diwedd. Fe glywodd hon y cyfrinachau i gyd, ac mae ganddi gof eliffant! Roedd yn aelod bwysig o’r teulu, ond wrth i fyd y teulu newid, a fydd ’na le i Dilys a’i ffrindiau?

Yn Y Cylch Cyfrin mae’r awdur yn cynnig cip tu ol i ddrws y garafán, lle mae’r merched yn gwnïo secwins ar ddillad perfformio newydd, ac yn troi drôr agored yn gawell glyd i’r babi newydd. Mae’n codi’r llen ar hud a rhamant y ‘big top’, a’n tywys i realaeth y gwaith diflino o glirio carthion anifeiliaid o’r prif gylch, wellingtons a chotiau glaw yn cuddio secwins a sgidiau sgleiniog, a’r pacio a symud cartref diddiwedd. Mae’n dangos dwylo caled merched y siglen uchel, y croen poenus tu ôl i’w pengliniau, a’r paratoi a’r gofal manwl all olygu’r gwahaniaeth rhwng symud yn osgeiddig yn nenfwd y babell, neu syrthio’n gelain i ganol y cylch.

Mae’n stori – yn ffuglen, sy’n ein tywys o’r Almaen a chyfnod yr Ail Ryfel Byd, i ogledd Cymru ac ar draws y byd. Fe gewch rhannu tristwch a hapusrwydd y cymeriadau arbennig yma, a chael blas ar ffordd o fyw sy’n prysur ddiflannu. Mae’r awdur yn nabod y byd yma – bu’n rhan o’r byd yma, ac mae ei gariad at y syrcas a’i phobol yn amlwg. Fe gewch eich hudo gan Y Cylch Cyfrin – mae meistr y cylch yn feistr ar ddweud stori dda hefyd. Brysiwch i’w darllen, mae sedd wedi’i chadw i chi o dan gynfas y babell fawr. Mae’r sioe ar fin dechre!

 

Siân Thomas