Mae Dylan dan y don. Ers iddo ddechrau yn yr ysgol uwchradd, mae popeth wedi mynd yn drech nag ef. Erbyn hyn mae wedi cael ei ddi-arddel o'r ysgol ac mae'n rhaid i'w fam ac yntau symud i bentref bychan ar arfordir gorllewin Cymru. Yno y magwyd ei fam ac yno mae ei daid yn byw. Addasiad Cymraeg o ...
This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Pontio
Bwriad y wasg yw cael cannoedd o adnoddau i gyd-fynd â'n llyfrau i blant a phobl ifanc. Bydd y rhain yn rhoi oriau o bleser, mwynhad ac yn ennyn eu chwilfrydedd. Byddwn yn eu cyflwyno ar gyfer gwahanol oedrannau.
Dafydd ap Siencyn gan Emrys Evans a lluniau gan Lleucu Gwenllian
Mae milwyr castell Conwy am waed Dafydd ap Siencyn. Ond mae'r Cymro dewr a'i gefnogwyr – Herwyr Nant Conwy – yn ddiogel yn Ogof Carreg y Gwalch yn y clogwyn garw uwch coed derw'r dyffryn.
Adnodd 1: Dramodig 1 i'w pherfformio gan ...