
Er bod ail nofel Simon Chandler wedi’i gosod rhwng y ddau Ryfel Byd, mae rhai o’i themâu yn gyfoes iawn: hiliaeth, erledigaeth, casineb a chariad.
Mae Hiraeth Neifion yn dilyn dyn ifanc o Flaenau Ffestiniog, Ifan Williams, wrth iddo ddianc o ddyfodol diflas a pheryglus yn Chwarel Llechwedd i fod yn bianydd jazz proffesiynol. Ar ôl iddo gyfarfod yr Almaenwr Willi Grünbaum, neu ‘Neifion’ fel mae’n cael ei alw, yn 1928 caiff ei dynnu i sin jazz gyffrous a blaengar Berlin fel aelod o fand aml-hil yr Asphalt Hustlers. Yn wahanol i’r Unol Daleithiau, mae modd i gerddorion Du a gwyn chwarae efo’i gilydd ar lwyfan yn Berlin, ond mae hyn yn dân ar groen y Natsïaid, sy’n gobeithio cipio grym yn yr Almaen. Wrth i Ifan ddatblygu’i grefft mae’r Natsïaid hefyd yn ennill tir, ac erbyn dechrau’r 1930au mae dyfodol aelodau’r band a’u cyfeillion – sy’n cynnwys Almaenwyr (gan gynnwys un o dras Iddewig), Americanwyr Du a gwyn, Rwsiad, Albanwr ac, wrth gwrs, Cymro – yn ansicr.
Mae dinas Berlin wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r awdur ers blynyddoedd, ond drwy ddarllen llyfr y daeth y syniad iddo am blethu jazz i’w nofel. ‘Llyfr o’r enw Faust’s Metropolis: a History of Berlin gan Alexandra Richie daniodd fy nychymyg,’ medd Simon. ‘Roedd un frawddeg benodol ynddo am “smoky jazz clubs” Berlin yn y 1920au. Cefais fy ngwefreiddio gan y ddelwedd honno, oherwydd nad oeddwn i erioed wedi ystyried bod cysylltiad rhwng Berlin a jazz bryd hynny. Yn syth, roedd hi’n glir mai cerddor jazz fyddai’r hogyn o Fro Ffestiniog. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am jazz ar y pryd, felly dechreuais addysgu fy hun... a disgyn mewn cariad gyda’r gerddoriaeth!’
Un o’r pethau wnaeth argraff gref arno wrth wneud ei waith ymchwil oedd y ffilm ddogfen Ken Burns’ Jazz. ‘Dysgais ddau beth sylfaenol drwy wylio’r ffilm ddogfen hon,’ medd, ‘yn gyntaf, roedd hiliaeth yn rhan annatod o hanes jazz, ac yn ail, cerddorion Du oedd wedi’i greu, yn y bôn, er iddyn nhw fenthyg ambell elfen ‘wen’ megis cerddoriaeth glasurol Ewropeaidd a’u taflu i’r tawddlestr. Fyddai nofel hanesyddol am jazz heb gymeriadau Du na hiliaeth ddim yn bosib – dyna pam fod Willi Grünbaum yn y nofel wedi dod â cherddorion Du a gwyn o’r Unol Daleithiau i Berlin er mwyn iddyn nhw allu chwarae efo’i gilydd.’
‘Mae tebygrwydd trawiadol rhwng y Natsïaid yn y 1930au cynnar a Rwsia o dan Putin yn 2025, ac mae Putin yn mygu creadigrwydd, hunanfynegiant a rhyddid diwylliannol i’r un graddau â Hitler, er gyda dulliau gwahanol. Ond, hyd yn oed pe na bai Rwsia’n achosi Trydydd Rhyfel Byd, mae esgyniad awdurdodyddiaeth a cheidwadaeth i’w weld ym mhobman heddiw: hyd yn oed yn yr Unol Daleithiau o dan Trump yn ei ail dymor yn Arlywydd ac, yn wir, ym Mhrydain hefyd gydag esgyniad plaid Reform ac ymateb y brid cyfredol o Dorïaid asgell dde sy’n mynd gyda’r llif ymhellach i’r dde. Gyda dyfodiad cynrychiolaeth gyfrannol yn 2026, a fyddai’r Senedd yng Nghaerdydd yn goroesi hyd yn oed un tymor o dan glymblaid rhwng Reform a’r Torïaid yng Nghymru? Pwy a ŵyr. Mae’r hyn a ddigwyddodd i Berlin yn sgil y Drydedd Reich yn dangos y perygl mawr sy’n ein hwynebu ni heddiw.’
Er mai nofel ffuglennol yw hon, mae rhai cymeriadau, megis y Natsïaid Hitler a Goebbels, a’r cerddor jazz enwog, Louis Armstrong, yn bobol go iawn. Drwy blethu hanes a ffuglen fel hyn, mae Simon wedi bachu ar y cyfle i gynnwys rhai o’i deulu ei hun yn y stori: mae landlord y prif gymeriad, Ifan Williams, yn Llundain yn daid iddo! Eglura Simon, ‘A finnau'n gwybod y byddai'n rhaid i Ifan ddod o hyd i lety yn ystod ei gyfnod yn Llundain pan oedd yn hogi'i grefft yn bianydd jazz, roedd hi'n ddewis amlwg iddo aros yn y tŷ lle y cafodd fy nhad ei fagu, sef 20 Kirkstall Avenue, Tottenham. Oddi yno gallai seiclo i’r Kit-Kat Club ( y clwb go iawn lle bu’n gweithio am sbel) a Soho (lleoliad y clwb jazz ffuglennol Chicago Red). Gyda llaw, mae Ifan hefyd yn sôn yn y nofel am 43 a Bag o' Nails, oedd yn glybiau jazz go iawn yn Llundain bryd hynny. Cyrhaeddodd Ifan 20 Kirkstall Avenue ychydig cyn pen-blwydd fy nhad, Jack (a'i efell, Dennis), yn 5 oed ym mis Rhagfyr 1926. Enw llawn fy nhad oedd Lewis Jack Chandler, sy'n esbonio fy enw yng ngorsedd, Seimon ap Lewis!’
Mae’r awdur wedi curadu trac sain arbennig i gyd-fynd â’r nofel ar blatfform Spotify:
https://open.spotify.com/playlist/2otreJlf3qaKNZk0z5d77U?si=u10i9ysbQRm_2yPxgeDZLg&pi=LHjrPbCIRcK8F&nd=1&dlsi=34a19c1004654023 (Trac Sain Hiraeth Neifion - playlist by Simon Chandler | Spotify) . Mae’n cynnwys caneuon sy’n berthnasol i fywyd a magwraeth Ifan, y prif gymeriad, ym Mlaenau Ffestiniog, yn ogystal â chaneuon jazz y 1920au sy’n ymddangos yn y nofel.
Mae Hiraeth Neifion yn cael ei lansio yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog, nos Fawrth, 24 Mehefin am 7.00yh. Mae croeso i bawb, a mynediad am ddim. Bydd copïau o’r nofel yn cael eu gwerthu ar y noson.
Mae Hiraeth Neifion ar gael yn awr ym mhob siop lyfrau Cymraeg,
drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.
Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch: llanrwst@carreg-gwalch.cymru