This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Ymlaen â Hi! Dathlu merched ym myd campau Cymru

Ymlaen â Hi! Dathlu merched ym myd campau Cymru

Roedd cyfleoedd a’r adnoddau i ferched a menywod Cymru ddatblygu eu sgiliau chwaraeon ar ei hôl hi am flynyddoedd. Ond mae pethau’n gwella. A dyna’r freuddwyd - ‘Ymlaen â Hi!’ 

Dyma gyfrol sy’n dathlu menywod Cymru ym myd y campau. Mae menywod Cymru wedi dangos cymeriad arbennig wrth frwydro i ddod i’r brig mewn sawl camp ar hyd y blynyddoedd; ac mae hi’n frwydr fawr.

Mae sylw i fenywod unigol sydd wedi brwydro’n llwyddiannus i serennu mewn gwahanol gampau yn y gyfrol hon; ac heb os mae’n cynnig ysbrydoliaeth i ferched ifanc Cymru.

“Dyma gyfrol bwysig sy’n dangos gwir ystyr dyfal barhau,” meddai Elen Williams golygydd llyfrau plant y wasg “Cawn ddarllen am ferched cryfion, unigryw sydd wedi cicio’n erbyn y tresi ac wedi profi eu hunain drosodd a throsodd gan ddod i’r brig yn eu camp. Dyma gyfrol i ni yma yng Nghymru, yn ferched ac yn fechgyn, fod yn falch ohoni.”

Bydd Ymlaen â Hi ar werth Mai 21 ymlaen mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com.