Geiriau sy'n gerddi ac yn ganeuon sy'n y casgliad hwn.
Mae'r rhan fwyaf yn fyr a chryno - ond yn cynnig cyfle i ymestyn at feysydd ehangach.
Mae amrywiaeth o themâu sy'n berthnasol i ddatblygiad ein pobl ifanc yma - o berthynas pobl a'i gilydd i wrthdaro yn y byd; o ddyfodol y cynefin i ddarluniau o hanes Cymru.
Ar ymyl y ddalen, mae ambell air a all fod yn anghyfarwydd yn cael ei esbonio. O dan bron bob cerdd, mae cyflwyniad gan y bardd.
Mewn byd sy'n rhemp o gasineb a dioddefaint, cyd-deimlad yw'r thema ganolog.
Taflenni Trafod Arddull. Cliciwch yma
Trafod Cerddi a Thema Ieuenctid. Cliciwch yma
Trafod Cerddi a Thema Unigolion Blaengar. Cliciwch yma