This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dros y Môr a'r Mynyddoedd: Straeon Merched Dewr y Celtiaid

  • £18.00
  • £0.00
  • Dros y Môr a'r Mynyddoedd: Straeon Merched Dewr y Celtiaid
  • ISBN: 9781845278786
  • Cyhoeddi: Medi 2022
  • Darluniwyd gan Elin Manon
  • Fformat: Clawr Caled, 277x205 mm, 104 tudalen

Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Ll?n a Branwen Williams.

Bywgraffiad Awdur:

Darlunydd y gyfrol yw Elin Manon. Merch o Gymru syn byw ac yn gweithio yng Nghernyw yw Elin. Mae ganddi ddiddordeb byw mewn chwedlau, hanesion am hen oesoedd a phatrymau a dychymyg y Celtiaid.

Y Chwedleuwyr Cymraeg. Dewiswyd ac addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan: Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Ll?n a Branwen Williams.

Gwybodaeth Bellach:

Yr hyn gawn ni yn y chwedlau hyn hefyd ydy darluniau o fywyd ar arfordir gwyllt y gorllewin, lle maer môr gwyllt ar mynyddoedd garw yn cadw sawl cyfrinach yn eu cilfachau.

Y Chwedlau:

  • Nia Ben Aur (Iwerddon)
  • Rhiannon a'r gosb o fod yn geffyl (Cymru)
  • Ker Is (Llydaw)
  • Morag Glyfar (Yr Alban)
  • Cewri Karrek Loos yn Koos (Cernyw)
  • Môr-forwyn Purt-le-Moirrey (Ynys Manaw)
  • Llygad am Lygad (Iwerddon)
  • Rhos y Pawl (Cymru)
  • Merch y Tonnau (Yr Alban)
  • Antur Keresen o Senar (Cernyw)
  • Stori Gráinne (Iwerddon)
  • Azenor ddoeth, Azenor ddel (Llydaw)
  • Castell Penârd (Cymru)
  • Cailleach ceidwad y ceirw (Yr Alban) Y Frenhines Lupa (Galisia)

Hefyd ar gael yn Saesneg/ Also available in English- Over the Mountains and the Sea