This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Galwad yr Alarch
- ISBN: 9781845279547
- Gill Lewis
- Cyhoeddi: Hydref 2024
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen
Nofel fer yw hon am gymeriadau crwn sy'n denu'r darllenwyr i deimlo eu bod yn rhan o'r stori. Mae Dylan dan y don. Ers iddo ddechrau yn yr ysgol uwchradd, mae popeth wedi mynd yn drech nag ef. Erbyn hyn mae wedi cael ei ddi-arddel o'r ysgol ac mae'n rhaid i'w fam ac yntau symud i bentref bychan ar arfordir gorllewin Cymru. Yno y magwyd ei fam ac yno mae ei daid yn byw. Addasiad Cymraeg o Swan Song.
Bywgraffiad Awdur:
Bu Gill Lewis yn gweithio fel milfeddyg ar draws y byd cyn dod yn awdur nifer o nofelau i blant. Mae’i straeon yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid ac yn procio darllenwyr ifanc i ystyried eu hamgylchfyd a gwarchod byd natur.
Gwybodaeth Bellach:
Ond pan mae Taid yn cynnig i Dylan ddod yn ei gwch gydag ef i’r aber i wylio’r elyrch yn dychwelyd i’w tir gaeaf, mae pethau’n dechrau newid. Dydi Taid ddim yn beirniadu nac yn holi; mae’n gadael llonydd i Dylan fod fel y mae.
Allan ar y dŵr, heb bwysau a heb fân bethau i’w ddrysu, mae Dylan yn dechrau cael hyd i’w draed eto. Mae gweld yr elyrch yn ‘cyrraedd adref’ yn rhoi gwefr iddo. Ond mae tir gaeaf yr adar mewn peryg ac mae tristwch yn taro’r cartref. All Dylan ddal ati pan mae pethau fel pe baen nhw’n llithro o’i afael eto?
“Doedd Sol ddim yn medru rhoi’r llyfr yma i lawr. Mi gafodd ei lyncu yn llwyr gan y stori.” – mam darllenydd ifanc