This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Meirw Byw

  • £8.50
  • Meirw Byw
  • ISBN: 9781845279516
  • Rolant Tomos
  • Cyhoeddi: Medi 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen
Mae yna bwerau tu hwnt i'ch ystyriaeth, creaduriaid tu hwnt i'ch hunllefau gwaethaf ac ochor gudd i Gymru na wyddoch chi ddim amdani. Mae dad 'di colli'r plot a mam 'di cael ei chipio i Annwn, ac i'w chael yn ôl rhaid ymuno efo'r meirw byw.
Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Ddolgellau, mae Rolant Tomos bellach yn byw ym Mro Morgannwg gyda'i deulu. Daeth yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, efo'r nofel hon. Dyma ei nofel gyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
Nofel ffantasi antur: Dewch i rodio yng nglyn cysgod angau.
‘Dyma nofel wallgo o ddigri sy’n llawn dychymyg.’ – Dewi Prysor un o feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.