This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Un Gêm, Dwy Stori
- ISBN: 9781845279271
- Siân Lewis
- Cyhoeddi: Mawrth 2024
- Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 200 tudalen
Mae Tom Owen, 11 oed, yn mynd i chwarae rygbi dros Gymru. We-hei! Am stori wych! Ond dim ond stori yw hi. Mae'i fam yn casáu rygbi gymaint, mae'n gwrthod gadael iddo gyffwrdd â phêl. Ar ôl symud i fyw i'r de, mae Tom yn cwrdd â Wil. Un afreolus a bywiog yw Wil, ond mae'n benderfynol o chwarae i dîm rygbi. Sut gall Tom helpu ei ffrind i wireddu'i freuddwyd? A beth am stori Tom ei hun?
Gwybodaeth Bellach:
Maer hanes yn cychwyn ar y diwrnod yn 1893, pan enillodd Cymru Bencampwriaeth y Pedair Gwlad am y tro cyntaf, ac yn symud o Geredigion i un o gymoedd y glo.