This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dan Gysgod y Frenhines

  • £8.50
  • £0.00
  • Dan Gysgod y Frenhines
  • ISBN: 9781845278755
  • Rebecca Thomas
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 318 tudalen

'All brenhines ddim dangos gwendid.' Byd dynion yw byd Angharad ferch Hywel Dda. Dydi Prydain y ddegfed ganrif ddim yn rhoi llais i fenywod. Ond mae yna un - Æthelflaed, brenhines Mersia - sy'n mynnu cael ei chlywed.

Gwybodaeth Bellach:

Mae bywyd Angharad yn newid yn llwyr pan gaiff ei hanfon i fyw yn ei llys, ac mae'i pherthynas arbennig gydag Ælfwynn, merch y frenhines, yn agor llwybr newydd yn ei chalon ... Ond nid pawb sydd o blaid goruchafiaeth menywod ym Mersia, ac mae gelynion i bob cyfeiriad. Wrth i eiriau droi'n arfau a chytundebau heddwch chwalu'n deilchion, mae dycnwch Angharad a'i pherthynas ag Ælfwynn yn cael eu profi i'r eithaf. Oedran: 13+