This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd, Y

  • £4.95
  • £0.00
  • Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd, Y
  • ISBN: 9781845277345
  • Lleucu Lynch
  • Cyhoeddi: Rhagfyr 2020
  • Darluniwyd gan Gwen Millward
  • Fformat: Clawr Meddal, 148x136 mm, 68 tudalen

Mae'r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, ac mae llond lle o waith i'w wneud yn yr ardd, ond mae'r Ci Bach dan draed! Wel, dyna mae'r Dyn Dweud Drefn yn ei feddwl, o leia'. Ond tybed a fydd y Ci Bach yn medru rhoi help llaw i'r Dyn Dweud Drefn wedi'r cwbl?

Bywgraffiad Awdur: Mae LLEUCU LYNCH yn enedigol o ardal Llangwm. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 2017. Fel rhan o'i chwrs dilynodd fodiwl Ysgrifennu Creadigol, ble lluniodd bortffolio o lenyddiaeth i blant, ac yn portffolio hwnnw y gwelodd Y Dyn Dweud Drefn olau dydd am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Swyddog y Wasg gydag S4C yng Nghaernarfon.