This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Help! Ble Mae Enfys? (Gwalch Balch: 3)

  • £3.99
  • £0.00
  • ISBN: 9780863819308
  • Awdur: Margaret Ryan
  • Cyhoeddi Hydref 2004
  • Darluniwyd gan David Melling
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Lewis.
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2
  • Fformat: Clawr Meddal, 194x127 mm, 48 tudalen

Addasiad Cymraeg o Rainbow to the Rescue, stori ddifyr am anifeiliaid y jyngl yn cael llond bol ar barablu diddiwedd Enfys y parot, ond yn ei gwerthfawrogi'n llawn pan lwydda i'w hachub rhag byddin o forgrug. 50 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Stori fach berffaith yw hon i’r rheiny sydd angen ymarfer dysgu darllen. Mae digon o ailadrodd geiriau a chystrawen, a fydd yn rhoi hyder i’r darllenydd ifanc. Mae’r print yn fawr ac ond ychydig ohono ar bob tudalen gan fod y lluniau yn aml yn llenwi dros hanner y dudalen, felly bydd y darllenydd yn teimlo ei fod yn darllen y llyfr yn gyflym. Mae’r stori yn un fywiog a diddorol i ddal diddordeb y darllenydd ifanc ond mae hefyd yn addas i’w darllen i blant iau fel stori cyn mynd i gysgu neu i rannu llyfr rhwng plant o oedrannau gwahanol.

Mae gan y stori hefyd foeswers a allai fod yn destun trafod wedi darllen y llyfr – gwerthfawrogi bod pawb ohonom yn wahanol ac i sylweddoli fod gan pawb ei ddawn a’i le yn y byd hwn, er nad yw’n hawdd gweld hynny weithiau, a phwysigrwydd cyfeillgarwch a ffrindiau.

Llyfr bach syml ond llwyddiannus iawn.

Gwenllïan Dafydd