This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dafydd ap Siencyn

  • £7.99

Pwy yw Dafydd ap Siencyn
a pham fod prif swyddogion a byddin Castell Conwy am ei waed?

Mae'r gŵr hwn, sy'n bencampwr ar drin y bwa hir,
yn cael ei hela yn Nyffryn Conwy.

Ond mae ef a'i gyfeillion yn llochesu mewn ogof ar graig Carreg y Gwalch, uwch coed y dyffryn.

Mae natur y coed a'r creigiau yn eu hamddiffyn. Mae pobl

Dyffryn Conwy yn ei gefnogi yn ogystal.

A fydd milwyr Castell Conwy yn llwyddo i'w dal?

 

Dyma nofel am gymdeithas yn sefyll ar ei thraed yn wyneb gormes llywodraeth y cestyll yn ystod y ganrif ar ôl Owain Glyndŵr.

 

Mae Lleucu Gwenllian, darlunydd y gyfrol, yn or-wyres ir awdur, Emrys Evans o Flaenau Ffestiniog. Cyhoeddwyd 10 o nofelau Dafydd ap Siencyn gan Wasg Carreg Gwalch yn ystod y 1980au.

 

 

Er fod y nofel hon wedi’i lleoli yn Nyffryn Conwy, mae olion castell Normanaidd bron ym mhob dyffryn mawr yng Nghymru ac maer sefyllfa yn benthyca ei hun yn hawdd iw dehongli yng nghyd-destun cynefinoedd eraill.

 

 

 

Oedran Darllen ac Oedran Diddordeb

Anelir y gyfrol at blant a phobl ifanc 8–12 oed, sy'n mwynhau nofelau cyffrous, anturus. Mae'r testun o fewn cyrraedd darllenwyr hyderus Blynyddoedd 5 a 6 ac o fewn cyrraedd darllenwyr eithriadol o hyderus Blwyddyn 4. Ond mae'r stori, y cymeriadau, yr hanes a'r adnoddau o ddiddordeb ar draws 812 oed.

Mae'r stori yn dod â chyfnod gormes y cestyll Normanaidd a'r Deddfau Cosb ar y Cymry yn fyw mae'n addas i bob rhan o Gymru felly. Mae'n nofel i'w darllen o ran pleser yn bennaf oll. Ond bydd yn ddefnyddiol i hyrwyddo llythrennedd, y dyniaethau a gwerthfawrogiad o hanes gan fod Adnoddau (i'w defnyddio yn y cartref ac mewn ysgolion) am ddim i'w lawrlwytho oddi ar wefan Gwasg Carreg Gwalch.

 

Maen rhan o gynllun treialu gan Wasg Carreg Gwalch gan ddefnyddio ar gyfer cyfres o nofelau i wahanol oedrannau cynradd, fydd yn cynnwys gweithgareddau iw lawrlwytho am ddim, er mwyn ceisio helpu rhieni ac athrawon i daclor cwymp diweddar mewn hyder darllen a welwyd yng Nghymru. Dyma rai o nodweddion y gyfres ar gyfer lefel diddordeb i oedrannau 5+, 7+, 9+, 11+

           testunau wediu sgwennun dda syn annog trafodaeth

           straeon bachog o ran meithrin diddordeb, ond o fewn cyrraedd darllenwyr heb allu llythrennedd uchel

           cynnwys heb fod yn nawddoglyd yn cyfateb i oedran diddordeb y darllenydd, nid ei oedran ond ei allu llythrennedd

           ffont unigryw, cyfeillgar i dyslecsia syn gwneud y darllen yn haws i bawb

           papur trymach nag arfer, hufennog ei liw syn cynorthwyo i leihau problemau i ddarllenwyr anawsterau gweld SpLD a darllenwyr anfoddog

           cysodi hygyrch – cymalau ystyr yn cael eu cadw wrth dorri llinellau; paragraffau cyfan yn cael eu parchu wrth osod diwedd tudalennau; dim gorwasgu testun ar dudalennau

           golygu arbenigol yn sicrhau darllen esmwythach ond syn dal i herior darllenydd a rhoi boddhad

           penodau byr gyda dylunio addas a darnau gorffwys/lluniau i apelio at y llygad ar dychymyg

           cloriau gwych syn denu sylw, yn apelgar ac yn rhydd o stigma

           darllenwyr sydd â chyfri isel ou gallu eu hunain, heb hyder neu heb fedru canolbwyntio am gyfnodau arbennig o hir

           y llyfrau hefyd yn apelio at ddarllenwyr mwy cyfarwydd sydd eisiau llyfr da iw ddarllen yn sydyn

           bydd rhai adnoddau ar gael: gweithgareddau hwyliog i blant iau, gweithgareddau dosbarth a chanllawiau trafod i blant hŷn; prosiectau clwb darllen, dosbarth cyfan neu grwpiau llai; posteri iw lawrlwytho