This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Kaiser y Trenyrs 2 Cyfres Brenin y Trenyrs

  • £6.95
  • £0.00
  • Kaiser y Trenyrs 2
  • ISBN: 9781845277772
  • Pryderi Gwyn Jones
  • Cyhoeddi Mawrth 2021
  • Darluniwyd gan Huw Richards
  • Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 128 tudalen

Dilyniant i Brenin y Trenyrs. Mae Brenin y Trenyrs wedi stopio prynu bwyd yn yr ysgol er mwyn cynilo arian i brynu'r trenyrs mwyaf c?l yn y byd. Mae ganddo ei lygad ar wobr fwy hefyd sef mynd ar daith i bencadlys rhyngwladol cwmni adidas yn yr Almaen!

Adidas, Nike, Puma, Vans, Converse, Reebok, New Balance, Asics does na drenyrs di-ri yn y byd? A does na neb wedi gwirioni â nhw mwy na phrif gymeriad y llyfr. Wrth ymweld yn rheolaidd â Sgidlocyr, siop sgidiau mwyaf c?l y dref, glafoeriar bachgen am gael un pâr yn arbennig yr Adidas ZX100000!

Yn y stori, dilynwn hynt a helynt y bachgen 13 oed wrth iddo feddwl am ffyrdd dyfeisgar o hel y pres sydd ei angen arno i brynur pâr o drenyrs delfrydol. Does ganddo ddim gobaith caneri o gael swydd, a gan fod ei bres poced mor bitw, chaiff o byth mor trenyrs ... ond gydai fêt gorau, Dyl, maer bechgyn yn dyfeisio cynllun er mwyn hel yr arian at ei gilydd.

Mae ambell isnaratif wedi ei glymu i ganol y brif stori, ac mae na dipyn o stori garu rhwng y prif gymeriad a Lowri, merch olygus sydd yn yr un flwyddyn ysgol ag o. Yn anffodus, mae na ddwylo blewog yn yr ysgol a chawn wybod bod na leidr yn eu plith! Sut fydd hyn yn effeithio ar gynlluniau ein prif gymeriad? Bydd yn rhaid i chi ddarllen y llyfr er mwyn cael gwybod!

Dyma lyfr ysgafn iawn, syn osgoi bod yn rhy ddwys a phregethwrol, er bod yr awdur wedi llwyddo i gynnwys ambell neges foesol. Dyma lyfr gydag ychydig o hiwmor y gallwn ei fwynhau heb ormod o waith meddwl ac mae hyn yn reit brin yn Gymraeg.

Dyma stori wahanol syn ychwanegu at yr arlwy o lyfrau a straeon amrywiol rydym nin lwcus iw cael yma yng Nghymru. Ni cheir yma stori o hud a lledrith wedi ei gosod mewn galaeth bell pell, ond yn hytrach, pwnc digon cyfarwydd wedi ei glyflwyno mewn iaith naturiol a thafodiaith ogleddol. Athro uwchradd ywr awdur, felly maen amlwg wedi treulio digon o amser yng nghwmni pobl ifanc i ddeall yr hyn syn apelio atyn nhw ond nid rhy ifanc, chwaith. A fydd y nofel yn taro deuddeg? Cawn weld mae darllenwyr yn eu harddegau cynnar (1214 oed) yn rhai anodd iw plesio!

Morgan Dafydd