This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Tywysog y Trenyrs

  • £6.95
  • £0.00
  • Tywysog y Trenyrs
  • ISBN: 9781845278267
  • Pryderi Gwyn Jones
  • Cyhoeddi: Medi 2021
  • Darluniwyd gan Huw Richards
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 152 tudalen

Y drydedd nofel sy'n dilyn hynt a helyntion Brenin y Trenyrs ai ffrindiau gwallgof! Mae Brenin y Trenyrs wedi cyrraedd adre or Almaen ers sbel bellach, ar 1000 o bres gwario wedi hen fynd yn angof. A fydd llonydd iw gael? O na! Ddim i Frenin y Trenyrs!

Bywgraffiad Awdur:

Er iddo gael ei eni yn Aberystwyth, magwyd Pryderi Gwyn Jones yn Llansannan, Dyffryn Clwyd ac ym Mangor. Wedi cyfnod yn teithio de America ac Ewrop, symudodd ir canolbarth wedi iddo briodi merch o Lanbryn-mair, a bellach maen dad i ddwy o ferched.

Treulia ei ddyddiau ym Maldwyn yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Caereinion, ac ymddiddoran fawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed! Ymhlith ei lwyddiannau eisteddfodol mae coron Eisteddfod Powys 2004 a 2011, a Stôl Stomp Tegeingl 2012. Hon yw ei drydedd nofel.

Gwybodaeth Bellach:

Mae Brenin y Trenyrs wedi cyrraedd adre or ffatri Adidas yn yr Almaen ers sbel ar 1000 o bres gwario a enillodd wedi'i wario i gyd. Nike Air Force 1 sydd ganddo am ei draed erbyn hyn yn yr ysgol ac yn y gym. Mae pethau efo Gwendoline yn mynd yn reit dda tan ...! Pam bod Dyl yn edrych ar ei ffôn bob munud ac yn chwerthin dros y lle? Pwy ywr Hercules ma sydd efo gym newydd yn y dre? A beth am y gystadleuaeth ma mae pawb yn mynnu sôn amdani o hyd? A fydd llonydd iw gael? Ddim iddo fo, Brenin y Trenyrs!