This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Nicsyn Cricsyn ar lan y môr

  • £6.99

Y nofel gyntaf mewn cyfres hwyliog am berfformiadau ci drygionus mewn dosbarth yn yr ysgol. Mae'r dosbarth ar binnau eisiau gwybod pwy yw'r 'ymwelydd annisgwyl' y maen nhw ar fin ei gyfarfod. Pan welan nhw mai ci bywiog, cyffrous a chyfeillgar ydyw, mae hyn yn datblygu perthynas agos rhwng gwahanol aelodau'r dosbarth a'r ci gwadd.

Bywgraffiad Awdur:
Mae’r gyfres hon o lyfrau am gi a’i gyfeillion dynol wedi’i chreu gan yr awdur hynod o boblogaidd, Jonathan Meres – awdur dros 30 o lyfrau plant. Dechreuodd Katy Halford, darlunydd y gyfres, wneud lluniau a chreu ei byd hudolus ei hun pan oedd yn blentyn. Mae wedi gwirioni ar dynnu lluniau pobl ac anifeiliaid.

Gwybodaeth Bellach:
Nofel ysgafn a hwyliog, ond wedi’i chynllunio’n ofalus i gynorthwyo’r darllenwyr ifanc i fachu yn y stori ac i’w gwneud yn ddarllenwyr mwy hyderus a phrofiadol. Gwerth y gyfrol yw y bydd yn gwneud i blant chwerthin – ond hefyd yn magu cariad at lyfrau.

  • ISBN: 9781845248116
  • Cyhoeddi: Ebrill 2026
  • Darluniwyd gan Katy Halford
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 88 tudalen

Pecyn athrawon Nicsyn Cricsyn