This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Ymlaen â hi! - Menywod Cymru ym Myd y Campau

  • £9.99

Roedd y cyfleoedd a'r adnoddau i ferched a menywod Cymru ddatblygu eu sgiliau chwaraeon ar ei hôl hi am flynyddoedd. Ond mae pethau'n gwella. A dyna'r freuddwyd - 'Ymlaen â Hi!'. Mae'r gyfrol hon yn dathlu camp y menywod hynny sydd wedi ac yn dal i fynd amdani i'r eithaf.

Mae menywod Cymru wedi dangos cymeriad arbennig wrth frwydro i ddod i’r brig mewn sawl camp dros y blynyddoedd. Mae'r gyfrol hon yn adrodd straeon o'r gorffennol a newyddion am sêr y presennol.
Rhagair gan Laura McAllister
LLIW LLAWN

  • ISBN: 9781845279851
  • Cyhoeddi: Mai 2025
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 96 tudalen

YMLAEN Â HI! gan Elen Williams

Adolygiad Dylan Ebenezer

Bydd yr haf yma yn un anferth i chwaraeon merched wrth i dimau rhyngwladol ac unigolion o Gymru gystadlu ar y lefel uchaf. Maer tîm pêl-droed ar y ffordd i Euro 2025 – y tro cyntaf erioed iddyn nhw chwarae mewn prif gystadleuaeth. Tîm rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd. Gornest fawr o bosib hefyd ir bocsiwr Lauren Price yng Nghaerdydd. Haf a hanner.

                Maer gyfrol hon yn gymar perffaith ar gyfer yr hyn sydd i ddod – ond yn fwy na hynny yn cofnodir hanes ar heriau maer merched a menywod wedi gorfod brwydro yn eu herbyn dros y blynyddoedd.

                Maer enwau ar campau cyfarwydd yma, ond hefyd y rhai llai adnabyddus. O ran y cyfarwydd – maer adran am bêl-droed ar rygbi yn swmpus ac yn llawn ffeithiau am yr enwau mawr sydd wedi arloesi yn y gêm. Ond mae yna hefyd hanes pwysig syn ein hatgoffa ni or rhagfarn sydd wedi bodoli yn erbyn chwaraeon menywod. Cafodd pêl-droed menywod ei wahardd am dros hanner canrif, er enghraifft. Ffaith ryfeddol sydd hefyd yn gwbl gywilyddus.

                Ond efallai mai’r enwau anghyfarwydd sydd yn eich taro fwyaf. O’r Gymraes gyntaf i ennill aur yn y Gemau Olympaidd i’r person cyntaf (dyn neu ddynes) i nofio ar draws Môr Hafren.

                Mae hanes beicio hefyd yn drawiadol – yn enwedig datblygiad y beiciau eu hunain. Dwi ddim yn credu bydden ni wedi llwyddo mynd yn bell iawn ar yr hen Peni-Ffardding! Mae yna bennod hyfryd am y Campau Cefn Gwlad, Llyn a Môr – sy’n cynnwys hanes tîm tynnu rhaff Mydroilyn yn ogystal â dwy sydd wedi cael llwyddiant mawr tra'n cneifio. Mae’r nodiadau o ran y geirfa yn help mawr hefyd – hyd yn oed i’r rheiny ohonom sy’n meddwl ein bod yn deall y gwahanol gampau. Mae wastad mwy i’w ddysgu!

                Daw’r lluniau go iawn a’r hanes yn fyw ac maen nhw’n plethu’n dda gyda’r darluniau lliwgar. Mae hi’n gyfrol fach sy’n bosib ei darllen mewn un cynnig ond hefyd yn taro chi fel rhywbeth y byddwch yn troi yn ôl ati yn gyson hefyd.

                Rwy’n gweithio llawer ar bêl-droed menywod ac yn trafod sefyllfa’r campau yn aml gyda rheiny o fewn o gêm. Yr hyn sy’n taro chi’n yw bod y rhan fwyaf o’r menywod eisiau siarad am y gêm neu’r digwyddiad yn unig. Maen nhw yn hapus i fod yn llysgenhadon ond dim eu dewis nhw oedd hynny. Na’i gyd oedd pawb eisiau gwneud oedd mwynhau chwaraeon.

                Ond, doedd hi ddim mor hawdd â hynny.

                Maen amhosib peidio gweld bod unrhyw lwyddiant yn gam mawr arall ymlaen yn natblygiad campaur menywod. Mae pob buddugoliaeth fach yn rhan or darlun mawr. Boed hynny’n deg neu beidio – mae yna bwysau ar bawb i ysbrydolir genhedlaeth nesaf a hyrwyddo eu camp ar bob achlysur.

                Dawr dydd pan na fydd angen gwneud hynny. Byddwn ni yno yn trafod y gêm – y canlyniad – a dim byd arall. Dyna pryd fyddwn yn gwybod bod chwaraeon menywod yn gyfartal â champaur dynion.

                Yn y cyfamser mae cyfrol fel hon yn bwysig dros ben.