- ISBN: 9781845276362
- Cyhoeddi Hydref 2017
- Fformat: Clawr Meddal, 150x155 mm, 156 tudalen
Casgliad yw hwn o ryfeddodau Ewrop llefydd, profiadau, blasau hyd yn oed oll yn deilwng i'w profi cyn bod teithio yn Ewrop, i ni Brydeinwyr, yn mynd yn anoddach.
Tabl Cynnwys:
Mae llawer ohonon ni wedi bod ym Mharis, Rhufain, Barcelona ac ati... ond faint sy wedi cysgu mewn peipen goncrit yn Awstria neu ymweld ag Amgueddfa'r Perthnasau Chwâl yn Zagreb? Beth am ddathlu'r Pasg yn Seville, seiclo ar hyd arfordir yr Iseldiroedd, croesi pont sy'n diflannu o dan y môr neu yfed yn Hell's Kitchen?
Bywgraffiad Awdur:
Mae Aled Sam yn wyneb a llais cyfarwydd ers blynyddoedd, yn cyflwyno rhaglenni i Radio Cymru ac S4C am deithio, tai a gwestai'r byd. Yn ystod ei yrfa mae wedi cael y cyfle i deithio'n helaeth i lefydd mwy diarffordd yn ogystal â'r cyrchfannau gwyliau poblogaidd. Mae'n cyfrannu colofn wythnosol i'r cylchgrawn Golwg, a chyhoeddwyd cyfrol o'i ysgrifau, Ac Yn Olaf ... myfyrdodau canol oed yn gynharach eleni. Mae'n byw yn Llandeilo gyda'i deulu.
Gwybodaeth Bellach:
"Dwi wedi bod yn Ewropead ers pedwar deg dau o flynyddoedd. Â'n hymadawiad o'r Gymuned Ewropeaidd yn prysur agosáu ymhen dwy flynedd, bwriad y llyfr yma yw bod yn ganllaw i'r rheini ohonom ni sy'n teimlo nad ydym wedi gweld digon o Ewrop eto." Aled Sam