Golwg Sydyn Bargen Loading... Cyrraedd yr Harbwr Diogel (Atgofion drwy Ganeuon) £8.50 £0.00 - £-8.50 Cyrraedd yr Harbwr Diogel ISBN: 9781845278489 Arfon Wyn Cyhoeddi: Ebrill 2022 Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 160 tudalen Ganed Arfon Wyn yn y Gors yng Nghaergybi a'i fagu yng Ngwalchmai a Llanfairpwll. Hogyn Môn ydi o, ac mae'i phobl yn agos iawn at ei galon. Moniar go iawn! Dyma awdur rhai o'n caneuon mwyaf poblogaidd, sy'n cynnwys 'Harbwr diogel', 'Cae o ?d' a 'Pwy wnaeth y sêr uwchben?' Mwynhewch yr hanes y tu ôl i nifer dda o'i ganeuon yn y gyfrol hon.Gwybodaeth Bellach: Roedd gan Arfon Wyn gariad mawr at gerddoriaeth yn blentyn ifanc ac mae'r cariad hwnnw wedi parhau gydol ei fywyd. Mae'n un o gyfansoddwyr caneuon mwyaf cynhyrchiol ei oes ac wedi llwyddo i ennill Cân i Gymru bedair gwaith.Ond yn ôl ei eiriau ei hun, nid dyna'i brif gyfraniad o bell ffordd. Fe hoffai gael ei gofio am ei waith cerddorol gyda phlant a phobl gydag anableddau dysgu ac am ei ymdrechion iddynt gael eu derbyn a chael ymdoddi, yn hollol naturiol a chydradd, yn ein cymdeithas. Dyna'i weledigaeth fawr. Erbyn hyn mae'n ehangu'r weledigaeth honno i bobl sy'n dioddef dementia. Ar ben hynny mae'n dal ati gyda'i gerddoriaeth gyda phobl a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol. Mae syniadau newydd yn dal i ddod i'r wyneb o hyd, gyda chymorth Canolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon. Default Title - £8.50 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Cyrraedd yr Harbwr Diogel (Atgofion drwy Ganeuon) £8.50