Golwg Sydyn Bargen Loading... Huw Sêl, Bardd a Saer £7.50 £0.00 - £-7.50 ISBN: 9781845271930 Cyhoeddi Hydref 2008 Golygwyd gan Arthur Thomas Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith Huw Sêl, atgofion a theyrngedau a manylion ei waith fel saer. Gwybodaeth Bellach: Huw Selwyn Owen oedd ei enw swyddogol, ond fel Huw Sêl neu'r 'Saer' y câi ei nabod gan bawb. Roedd yn grefftwr gyda dawn dwy genhedlaeth arall o seiri gwlad yn llifo drwy'i wythiennau. Arferai'r grefft honno gyda balchder yn ei weithdy sinc yn sgwâr y crefftwyr yn Ysbyty Ifan. Yn nhraddodiad gorau gweithdy'r saer, roedd cwt Huw yn senedd-dy i'w fro. Câi pynciau'r dydd eu trafod yno – popeth oedd yn agos at galon y Saer, o fyd y ddrama i Gymdeithas yr Iaith; o'r papur bro i awdlau cenedlaethol; o ddathliadau'r gymdeithas leol i daeogrwydd a dyfalbarhad ei genedl. Heb dynnu'i lygad oddi wrth ei goed a'i arfau, byddai gan y Saer farn groyw a ffraeth ar bopeth a bu'i ddylanwad yn drwm ar sawl cenhedlaeth ifanc a fu yno yn y siafins gydag o. 'Rhy hen a rhy wahanol' oedd disgrifiad Huw ohono'i hun i'r oes frysiog, fodern. Yng nghanol ffolinebau'r oes honno, mae'n werth oedi eto uwch ben geiriau a gweledigaeth Huw Sêl. Default Title - £7.50 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Huw Sêl, Bardd a Saer £7.50
Golwg Sydyn Bargen Loading... ABC, Y Bysiau a'r Haka Cymraeg! £8.00 - £-8.00 ABC, Y Bysiau a'r Haka Cymraeg! ISBN: 9781845276065 Arthur Thomas Cyhoeddi Medi 2018 Darluniwyd gan Mei Mac Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm Straeon rygbi clybiau gogledd-orllewin Cymru - Nant Conwy, Bro Ffestiniog, Y Bala, Porthmadog, Pwllheli, Caernarfon, Bethesda a Llangefni.Gwybodaeth Bellach:Mae gan bob clwb chwaraeon ei straeon difyr. Gan i glybiau pêl-droed yr ardal hon gael eu sefydlu rai cenedlaethau yn ôl, bu i lawer o'r straeon difyr farw gydag aelodau gwreiddiol y clybiau hynny. Ond yn achos clybiau rygbi gogledd-orllewin Cymru, mae'r rhai a fu yno o'r dechrau bron i gyd ar dir y byw, gan i'r mwyafrif gael eu sefydlu un ai yn saithdegau neu wythdegau y ganrif ddiwethaf. Felly, rhaid oedd mynd ati ar frys i gasglu'r straeon. Dydi'r gyfrol ddim yn cynnwys pob stori o bob clwb, ac mae llawer i'w casglu eto, ond gan fod angen cychwyn yn rhywle, dyma ganolbwyntio ar wyth o glybiau'r ardal. Gobeithio y bydd y chwerthin a brofir wrth ddarllen hon yn gyfrwng i ddod â mwy o straeon i'r fei. Yn sicr, cewch flas go iawn or hyn oedd yn digwydd ar feysydd rygbi Cymraeg y gogledd ac oddi arno! Default Title - £8.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details ABC, Y Bysiau a'r Haka Cymraeg! £8.00