This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Bro Prydferthwch

  • £6.50
  • £0.00
  • Bro Prydferthwch
  • ISBN: 9781845279264
  • Casi Wyn
  • Cyhoeddi: Rhagfyr 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 90 tudalen

Cyfrol o gerddi Bardd Plant Cymru, Casi Wyn ynghyd â sylwadau ynghylch sut yr aiff ati i greu a chyfansoddi.

Dyma gyfrol fywiog sy'n ddathliad o'r ddwy flynedd lawn a dreuliodd Casi Wyn yn Fardd Plant Cymru.  Dewch gyda Casi i bob cwr o Gymru i gael blas ar yr holl farddoniaeth a chaneuon fu'r plant yn eu cyfansoddi dan ei harweiniad hi.  Nid cyfrol gyffredin o farddoniaeth sydd yma, ond gwledd i'r glust, a chyfle i chithau hefyd roi tro ar gyfansoddi.

Dymuna Casi gyflwyno'r gyfrol i bob plentyn yng Nghymru - daliwch ati i fwynhau - ac i freuddwydo.

Caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Gwefan: www.llenyddiaethcymru.org. Twitter: @BarddPlant

Logo Bardd Plant