This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Byd Gwyrdd (Cerddi Lloerig)

  • £4.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845273248
  • Cyhoeddi Mai 2011
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 72 tudalen

Cerddi gan amryw o feirdd ar bynciau 'gwyrdd' megis ailgylchu, a gwarchod yr amgylchfyd. Y gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres hynod boblogaidd Cerddi Lloerig.

Gwybodaeth Bellach:
Nid troi’r byd yn wyrdd sydd ei angen, efallai – ond troi dyn yn wyrdd. Ydi hi’n amser i ni beidio â meddwl mai rhyw greaduriaid rhyfedd o blaned arall yw ‘dynion bychain gwyrdd’? Os na ddysgwn ni wneud hyn, fydd gennym ni ddim planed ar ôl! Mae’r cerddi yn y casgliad hwn yn wynebu’r peryglon sy’n bygwth bywyd ar y ddaear. Maent hefyd yn cynnig y llwybrau eraill y mae’n bosib i ni eu dilyn. Ond gan mai cerddi ydyn nhw, maen nhw’n dweud eu neges mewn ffyrdd sy’n rhoi mwynhad i ni – ac weithiau’n tynnu gwên hyd yn oed. Pan ddowch ar draws penillion Gwyn Morgan sy’n disgrifio sut mae Dad yn arbed ynni drwy ostwng y gwres yn y tŷ, byddwch yn siŵr o fwynhau’r hiwmor!

Bu Dad yn troi y thermostat
O ugain lawr i ddim
Mae Mam (i gadw’n dwym drwy’r dydd)
Yn gwisgo sgidiau chwim –

Mae’n rhedeg wrth lanhau y tŷ,
Mae’n rasio’n gynt a chynt,
Mae’n smwddio’n glou, yn hwfro’n wyllt –
Mae Mam bach mas o wynt!