This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cnoc Cnoc, Tic Toc, Tap Tap

  • £3.95
  • £0.00
  • Cyhoeddi Mawrth 2005
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
  • Fformat: Clawr Meddal, 196x127 mm, 80 tudalen

Casgliad bywiog a difyr o hanner cant o gerddi doniol a dwl am beiriannau, gan 16 o feirdd, gyda chartwnau ar bob tudalen; i blant 7-11 oed.

Adolygiad Gwales
Ceir yma gasgliad o gerddi sy’n sôn am beiriannau – eu lle yn ein bywydau ar hyn o bryd, y posibiliadau sydd efallai ar y gorwel a’r peiriannau hynny fyddai’n ychwanegiad ar restr Siôn Corn pob plentyn! Rwy’n siŵr y byddai gan bob plentyn le ar gyfer y peiriant gwneud gwaith cartref yn ei stafell wely!

Cyniga’r gyfrol amrywiaeth helaeth o gerddi i godi blys pob darllenydd. O’r cerddi symlaf i’r rhai â thro yn y cynffon, ceir yma hiwmor a chyfle i fyfyrio. Yn ogystal ag edrych ymlaen i’r dyfodol megis gydag ‘Ifor y dyfeisiwr’ a ‘Mae angen . . .’ cawn hefyd gyfle i gamu'n ôl drwy hanes ein gwlad mewn cerddi fel ‘Olwyn y Gilfach Ddu’.

Yn ogystal â chynnig amrywiaeth yn nhestunau’r cerddi, braf yw gweld yr un amrywiaeth yn y ffurf. Ceir yma gwpledi, acrostig, limrigau ayyb, ond tybed a oes lle i gynnwys mwy o gerddi nad ydynt yn odli er mwyn arddangos yn glir nad yw odl yn rhaganghenraid wrth farddoni?

Nia Huw