This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dwi'n Byw Mewn Sw Gyda'r Cangarw

  • £3.95
  • £0.00
  • Cyhoeddi Mai 2003
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 196x127 mm, 68 tudalen

Casgliad deniadol o 50 o gerddi amrywiol a doniol am bob math o anifeiliaid gan 23 o feirdd gwahanol, i ddarllenwyr 7-11 oed. Dros 50 o luniau du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Casgliad o 50 o gerddi digri am anifeiliaid gan nifer o feirdd sydd wedi hen ennill eu plwy fel beirdd ar gyfer plant. Medd broliant y llyfr, “mae digon o bethau i’n hatgoffa ein bod i gyd yn perthyn yn agos iawn iawn at y mwnci, y mochyn y ci a’r gath”.

Mae yma doreth o syniadau digri ac abswrd sy’n mynd i lonni calonnau’r darllenwyr ifanc. Mae plant yn hoff o bersonoliaethu anifeiliaid, ac mae awduron a beirdd drwy’r oesoedd wedi creu llenyddiaeth i ddiwallu’r hoffter hwnnw. Mae’r cerddi yma’n hwyliog a digri ac yn sicr o oglais y dychymyg – o’r platypws sy’n gorwedd wrth ymyl y giât, i’r parot gollodd ei goes. A beth tybed yw’r teircoes Yngi-Byngi?

Dyma lond trol o hwyl i blant, felly, ac i athrawon a rhieni'n ogystal. Mae llun y clawr yn lliwgar a deniadol ac mae nifer o ddarluniau du-a-gwyn doniol iawn gan Siôn Morris ar bob tudalen.

Mae'r gyfrol yn ychwanegiad derbyniol dros ben i’r gyfres wych a phoblogaidd Llyfrau Lloerig. Mwynhewch!

Eiry Palfrey