This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Hen Wragedd a Ffyn ac Eira Gwyn

  • £3.95
  • £0.00
  • Cyhoeddi Mawrth 2004
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 80 tudalen

Casgliad difyr a doniol o 56 o gerddi hwyliog gan 20 o feirdd amrywiol yn sôn am y tywydd, y tymhorau, a misoedd y flwyddyn.

Adolygiad Gwales
Dyma gasgliad arbennig o farddoniaeth am y tywydd a’r tymhorau. Ynddo mae cerddi gan nifer o feirdd enwog a phoblogaidd gan gynnwys Myrddin ap Dafydd, Selwyn Griffith, Zohrah Evans, Mererid Hopwood a Dewi Pws – i enwi dim ond rhai. Hefyd mae yma gerddi gan ddisgyblion o ddwy ysgol.

Mae’r lluniau hwyliog a chlir yn ychwanegu at naws y cerddi a bydd ambell un yn siŵr o godi gwên! Pwy fyddai wir yn disgwyl gweld hen wragedd a ffyn yn disgyn o’r awyr!

Mae trawsdoriad da o gerddi yma: rhai hwyliog ac ysgafn fel ‘Hen wragedd a ffyn’, ‘Eira’ a ‘Gwynt’. Mae rhai eraill yn rhannu gwybodaeth, fel ‘Arwyddion’, neu’n gyfle i ddysgu enwau’r misoedd neu drafod nodweddion y tymhorau. Hefyd ceir rhai acrostig fel ‘Y Tymhorau’ y gall plant roi tro ar eu creu. Trwy ddarllen ambell bennill arall gallaf wir rannu teimladau trist y cymeriad yn y gerdd ‘Ffenestri gwlyb’. Ond yn dda ar gyfer addysgu mae’r gerdd ‘Llosg Haul’, gan Cefin Roberts, sy’n rhoi cyfle i drafod pwysigrwydd defnyddio eli haul. Gwych. Ond wedi dweud hynny, un o’m hoff gerddi yw’r penillion am ‘Geiliog y gwynt’.

Yn wir, llyfr arbennig i’w gael yn y dosbarth wrth chwilio am benillion ar gyfer y thema Tywydd neu’r Tymhorau. Byddwn hefyd yn siŵr o glywed ambell un o’r cerddi mewn Eisteddfodau cyn bo hir! Yn ogystal, byddai’n anrheg ddiddorol i blentyn sy’n mwynhau darllen neu wrando ar gerddi.

Angharad Williams