This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Mae Bywyd Yma

  • £9.50
  • £0.00
  • Mae Bywyd Yma
  • ISBN: 9781845279028
  • Guto Dafydd
  • Cyhoeddi: Awst 2023
  • Darluniwyd gan Dafydd Nant
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 120 tudalen

Dyma ddathliad dau ffrind o'u cynefin yn Llŷn. Yn y cerddi a'r lluniau gwelir harddwch y fro, ac eir i'r afael â'i threftadaeth amrywiol - y morwrol a'r diwydiannol, y crefyddol a'r diwylliannol, y cymunedol a'r teuluol. Mae'r cyfanwaith yn dangos bod modd gwerthfawrogi holl gyfoeth cymhleth bywyd yn Llŷn.

Bywgraffiad Awdur:

Mae Guto Dafydd yn fardd ac yn nofelydd. Yn wreiddiol o Drefor, mae bellach yn magu Casi a Nedw ym Mhwllheli gyda Lisa. Enillodd y Goron yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2014 a 2019, a chyhoeddi Ni Bia'r Awyr, cyfrol o gerddi, yn 2014. Mae ei farddoniaeth yn sôn am berthynas pobl, eu hunaniaeth a'u straeon, a'r tir. Ar ôl cyhoeddi'r nofel Stad yn 2015, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am Ymbelydredd yn 2016 a Carafanio yn 2019. Mae ei nofelau'n sôn am Gymry yn Lloegr, a chreaduriaid sy'n cael trafferth dygymod â'u hamgylchiadau yn y byd.

Mae Dafydd 'Nant' Owen yn ffotograffydd a fideograffydd o Fynytho, ym Mhen Llŷn ond yn bellach yn rhannu ei amser rhwng 'adra' a Chaerdydd. Wedi sefydlu ei gwmni ffotoNant a mynd yn llawrydd yn 2019, mae bellach yn gweithio a chyfrannu i rhai o brif gwmnïau Cymru a'r DU. Mae ei ddiddordebau ffotograffeg yn y maes dogfennu a phortreadu, sydd wedi ei arwain i gydweithio ar y llyfryn yma gyda'i ffrind a'r bardd Guto Dafydd.