This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Nadolig y Plant

  • £3.95
  • £0.00
  • Cyhoeddi Hydref 2004
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
  • Fformat: Clawr Meddal, 196x127 mm, 80 tudalen

Casgliad bywiog o dros hanner cant o gerddi gwreiddiol, amrywiol am y nadolig gan blant ac ar gyfer plant. 64 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o gerddi’r casgliad hwn gan blant. Ymarferion ydynt gan egin feirdd o’r ysgolion cynradd. Ar y cyfan ni cheir lawer o nodweddion barddonol yn y cerddi, a rhyddieithol iawn yw’r penillion. Bydd rhai yn siŵr o ofyn beth yw pwrpas cyfrol o’r fath. Dengys y gyfrol y bwrlwm o farddoni a geir yn ein hysgolion, a bydd yn sicr o fod yn hwb i rai o weld eu henwau a’u llinellau mewn print.
Gallai’r gyfrol hon fod yn ymarfer da i blant ddarllen cerddi am y Nadolig, ac mae lluniau cartwnaidd Siôn Morris yn ychwanegu tipyn o ddifyrrwch i’r cerddi.

Yn ogystal â cherddi’r disgyblion, ceir nifer o gerddi gan brifeirdd. Mae cynnyrch Mererid Hopwood, Meirion MacIntyre Huws, Ceri Wyn Jones, Myrddin ap Dafydd a Tudur Dylan Jones yn pefrio wrth iddynt sefyll ochr yn ochr â'r plant. Ond, i mi, Gwyn Morgan yw’r oedolyn sy’n medru taro nodyn a chywair direidus yr ieuengaf yn llwyddiannus.
Ion Thomas