This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Y Ddraig Groch (Cerddi Lloerig)

  • £4.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845272234
  • Cyhoeddi Ebrill 2010
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 72 tudalen

Mae hanes Cymru yn llawn baledi, mae arwyr Cymru yn haeddu cân. Ond rydyn ninnau hefyd, wrth siarad yr iaith a mwynhau ei thrysorau hi, yn haeddu pennill neu ddau. Lluniau du-a-gwyn difyr a doniol ar bob tudalen gan yr arlunydd poblogaidd, Siôn Morris.

Gwybodaeth Bellach:
Beth yw Cymru i ti?

Cyngerdd a chân
Calon Lân
Y Ddraig a’i thân . . .
Gwersyll Llangrannog
Trên bach Ffestiniog ...

Dyna rai o’r lluniau sy’n llenwi dychymyg Sandra Anne Morris. Un peth sy’n sicr, mae ‘Trysorau di’ri’ yn eiddo ‘Ein Cymru ni’.

Mae hanes Cymru yn llawn baledi, mae arwyr Cymru yn haeddu cân. Ond rydan ninnau hefyd, wrth siarad yr iaith a mwynhau ei thrysorau hi, yn haeddu pennill neu ddau:

Rwy’n rhan o hanes Cymru
A’i straeon tanllyd hi,
Yr anturiaethau enbyd
A’n harwyr mentrus ni;
Mae cyffro chwedlau’r werin,
A dawn a dweud y dewin
Yn llenwi ’mreuddwyd i.