This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845273422
- Cyhoeddi Ebrill 2011
- Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Disgrifiad Gwales
Bydd cyfrolau eraill yn sicr o drin a thrafod gwaith Iwan Llwyd a thafoli ei gyfraniad ar droad canrif allweddol yn ein hanes. Bydd gwerthfawrogi ei gerddi; bydd yn hawlio'i le yn ein traddodiad barddol. Ond yma, mae'i gyfeillion a'i gyd-feirdd yn cofio'r dyn cynnes ac annwyl, yn ail-fyw'r profiadau a'r gwmnïaeth ac yn cofnodi'r straeon a'r atgofion. Ac yn canu er cof amdano.
Gwybodaeth Bellach:
Casgliad o luniau, atgofion, cerddi, sylwadau ar ei waith, caneuon gan feirdd ac ysgolheigion. Cnewyllyn y gyfrol fydd deunydd y sioe ‘Iwan, ar Daith’.
Wrth ddwyn i gof y bersonoliaeth fawr a’r dalent oedd yn wefreiddiol ar brydiau, dyma gofnodi rhai o gamau’r daith drwy’r byd a’r betws yr ymhyfrydai Iwan ynddynt.