This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9780863817854
- Cyhoeddi Tachwedd 2002
- Golygwyd gan Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd
- Fformat: Clawr Meddal, 210x145 mm, 360 tudalen
Cyfrol bwysig yn trafod gwaith ugain bardd amrywiol, a gyflwynir fesul pâr ac sy'n cwmpasu'r 20fed ganrif, yn cynnwys nodiadau bywgraffyddol a chyflwyniad i'w cerddi, dyfyniadau amdanynt a chanddynt am feirdd eraill gyda CD yn cynnwys deg bardd newydd yn adrodd pedair o'u cerddi eu hunain.
Adolygiad Gwales
Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau disgrifio a gwerthfawrogi’r clamp hwn o lyfr – mae cymaint ynddo! Mae’n llyfr darllenadwy, yn arweiniad dihafal i athrawon a thiwtoriaid, heb sôn am fod yn gyfeirlyfr defnyddiol i bob myfyriwr sy'n astudio barddoniaeth. Nid cyfrol o farddoniaeth gan amryw o feirdd a geir yma, ond cyflwyniad ac astudiaeth i’w gwaith.
Cawn yma benodau ar 19 o feirdd (ac un ar yr Hen Benillion), hanner ohonynt yn feirdd cyfoes a’r hanner arall yn ddylanwadau o’r gorffennol. Amheus oeddwn i o’r cyfuniad hwn ar y dechrau, ond wedi darllen y gyfrol mae wir yn syniad penigamp. Gwerthfawrogir crefft Twm Morys yn fwy, er enghraifft, o sylwi ar ddylanwad yr Hen Benillion ar ei waith. Mae’r penodau ar y beirdd cyfoes a’r cyflwyniad i’w gwaith yn ddiddorol a dadlennol iawn, ac yn llawn gwybodaeth berthnasol. Er bod eu henwau mor gyfarwydd a’u gwaith yn adnabyddus, ychydig a wyddwn amdanynt hwy eu hunain – a wyddech, er enghraifft fod Mei Mac wedi bod yn gweithio fel peiriannydd i’r Bwrdd Dŵr am gyfnod, a bod Emyr Lewis yn hen-nai i T.H. Parry-Williams? I’r rheiny ohonom sy’n diwtoriaid mae hon yn gyfrol werthfawr tu hwnt wrth gyflwyno’u gwaith yn gyffredinol ac wrth drafod cerddi unigol.
Dyma lyfr gwerthfawr hefyd i’r darllenydd cyffredin bori ynddo wrth erchwyn y gwely gan ei fod mor hawdd ei ddarllen, gan gynnwys hyd yn oed ychydig o hiwmor hefyd, megis yr hyn a ddywed Twm Morys wrth sôn am ei hoff farddoniaeth ef: ‘Gyda llaw, y telynor a’r gof sy orau gan y genod yn yr Hen Benillion – sef y cryfa’ a’r dela’, wrth gwrs!’ I’r darllenydd cyffredinol mae’n biti na ddyfynnwyd y cerddi a drafodir yn llawn, gan na ellir gwerthfawrogi’r rhannau hynny sy’n trafod cerddi unigol heb gael y cerddi wrth law, er bod hyn, wrth gwrs, yn ein hannog i chwilio i lyfrau eraill a gweithiau eraill gan y beirdd, ac yr adroddir gwaith y beirdd cyfoes ar y CD sydd am ddim gyda’r llyfr.
Mae yma ôl ymchwil, a’r dyfyniadau yn enwedig yn werthfawr iawn, er yr hoffwn i yn bersonol gael llyfryddiaethau helaethach. Mae’n biti fod yma dipyn o frychau ieithyddol a golygyddol, a’r cystrawennau ‘mae’ a ‘cael’ yn teyrnasu, ond mae’r llyfr fel cyfanwaith yn syniad mor wych ac yn sicr yn llwyddiannus ac yn werth ei brynu a’i ddarllen (a gwrando arno!).
Gwenllïan Dafydd