Golwg Sydyn Bargen Loading... Cynefin Glan y Mor (Cyfres Cynefin 2) £6.99 £0.00 - £-6.99 ISBN: 9781845274221 Iolo Williams, Bethan Wyn Jones Cyhoeddi Ebrill 2014 Fformat: Clawr Meddal, 235x172 mm, 64 tudalen Dyma\'r ail lyfr yng nghyfres Cynefin. Mae hwn yn llyfr sy\'n trafod cynefin difyr glan y môr - yr anifeiliaid, yr adar, y pryfetach, ymlusgiaid, amffibiaid, pysgod, molysgiaid, cramenogion, cen, planhigion, gwymon a chregyn. Telir sylw i nodweddion gwahanol fathau o draethau, clogwyni ac aberoedd Cymru, gan dynnu sylw at draethau penodol y gall darllenwyr ymweld â nhw. Default Title - £6.99 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Cynefin Glan y Mor (Cyfres Cynefin 2) £6.99
Golwg Sydyn Bargen Loading... Blodau Gwyllt £12.50 £0.00 - £-12.50 ISBN: 9781845270841 Awdur: Bethan Wyn Jones Cyhoeddi Gorffennaf 2006 Fformat: Clawr Meddal Adolygiad Gwales Cyfrol sy’n cynnwys 240 o’r 1500 a mwy o flodau gwyllt mwyaf cyffredin Ynysoedd Prydain yw addasiad Cymraeg Bethan Wyn Jones o lyfr y botanegydd cydnabyddedig, John Akeroyd. Yn sicr, mae’n gyfrol sy’n llanw bwlch pendant. Serch hynny, o ddefnyddio addasiad, mae gwasg yn gyfyngedig i gynnwys y gyfrol wreiddiol a gan mai cyfrol yn canolbwyntio ar y tiroedd isel yw honno, nid yw’r addasiad yn llawn adlewyrchu natur gyfoethog blodau ucheldir Cymru. Mae hyn yn wendid ond yn un sy’n cael ei gydnabod gan y cyhoeddwr. I’r rhan fwyaf, mae enwau Cymraeg ar flodau gwyllt yn ddieithr neu’n gyfyngedig i gynnwys ‘y border bach’, ond i’n cyndeidiau roedd adnabod y blodau a’u rhinweddau meddyginiaethol a maethol yn sylfaenol bwysig. Mae’r llyfr yn cyfrannu at adennill y dreftadaeth werthfawr ond golledig yma. Mae’n addas o ran maint a gwneuthuriad i fod yn llyfr maes ac mae’r lluniau o safon uchel gyda’r lliwiau wedi eu hargraffu’n gywir i adlewyrchu gwir liw'r blodyn. Gosodir blodyn ar bob tudalen a diwyg taclus sy’n ei gwneud yn hawdd dod o hyd i'r wybodaeth berthnasol. Yn ogystal, mae’r cysgodlun ar ben y ddalen yn gymorth i ddarganfod yn gyflym flodau ac iddynt strwythur penodol. Ceir disgrifiad o strwythur blodau, sut i chwilio ac adnabod blodau, eu cynefinoedd a hefyd materion ynghylch cadwraeth a’r gyfraith sy’n ymwneud â blodau gwyllt. Cryfder pob llyfr o’r fath yw mynegai syml a hawdd ei ddefnyddio a hwnnw wedi ei strwythuro un ai yn ôl teulu a rhywogaeth, lliw a natur y blodyn, yr enw cydnabyddedig Linneaidd Lladin neu’r enw Cymraeg safonol. Mae’r blodau yn y llyfr hwn wedi eu trefnu yn ôl y drefn teulu a rhywogaeth gydnabyddedig, mae’r mynegai Cymraeg yn bresennol ond nid oes mynegai Linneaidd ar gael i glymu cynnwys y llyfr gyda safonau gwyddonol cydnabyddedig. Yn y cyd-destun gwyddonol mae’r enw Lladin cyn bwysiced â’r enw cyffredin Cymraeg. Yn ogystal, bydd botanegydd yn y maes yn aml am adnabod blodyn ac iddo strwythur penodol, er enghraifft, blodyn 5 petal melyn. Mae’r cysgodlun yn gymorth ond byddai mynegai yn rhestru blodau yn ôl eu lliw a natur, er enghraifft, yn rhestru’r holl flodau 5 petal melyn gyda’i gilydd ar draws pob rhywogaeth, yn gymorth mawr mewn llyfr maes tebyg i hwn. Byddwn yn cymeradwyo’r gyfrol i’r lleygwr sydd â diddordeb mewn blodau a hefyd i ysgolion sydd am astudio blodau’r maes. Penri James Default Title - £12.50 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Blodau Gwyllt £12.50