This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

AmrywIAITH 4 Llyfrau (Llafar Gwlad: 75)

  • £7.50
  • AmrywIAITH 4 Llyfrau
  • ISBN: 9781845246075
  • Cyhoeddi: Awst 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 150 tudalen

Dyma'r pedwerydd llyfr yn y gyfres lwyddiannus hon. Mae yma drafodaethau am bob math o agweddau ar Gymraeg heddiw, geiriau, hanesion, idiomau, dywediadau... o'r ysgolheigaidd i'r mwy mentrus! Mae'r cyfraniadau oll yn deillio o sgyrsiau a gafwyd ar y grŵp Facebook Iaith, sydd â 17,400 o aelodau.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Guto Rhys yn ieithydd ac yn hanesydd. Mae’n arbenigo mewn ieithoedd a thafodieithoedd Brythonig ac mae hefyd yn awdurdod ar y Prydyn (Pictiaid) a’u hiaith. Mae’n dad i ddau fachgen bywiog amlieithog, ac yn ei amser sbâr mae wrth ei fodd yn dringo clogwyni neu’n cerdded i ben mynyddoedd serth. Cyhoeddodd dair cyfrol o AmrywIAITH yn 2020, 2022 a 2023. Cyhoeddwyd y gyfrol gan yr awdur.
Gwybodaeth Bellach:
Sut fyddech chi’n dehongli’r frawddeg ganlynol? ‘Oes ’na law ar dy lo ac ar dy foch?’ Ai corryn ynteu pry cop(yn) yw’r creadur bach heglog hwnnw sy’n llechu ym mannau tywyll y tŷ? Sut mae Hwntws a Gogs yn rhegi ac yn diawlio? Wyddech chi mai’r un gair, yn hanesyddol, yw ffon a ‘spoon’? Beth yw perthyn gwaed chwannen? Ym mha dai tafarnau yng Nghymru ydych chi’n debygol o allu sgwrsio yn Gymraeg? Wyddoch chi ymhle yng Nghymru mae Abbey Come Here!, Bryn Legless, Abba Wristwatch, Crimewatch, Fronty Silty, Minor chocca a logga doo neu I Strangled Alice? Mae yma ddegau a degau o drafodaethau difyr a hwyliog am gyfoeth a bwrlwm ein hiaith bob dydd. A phob tro, ar ôl crynhoi a thrafod cyfraniadau’r cyhoedd, bydd yr awdur yn ychwanegu pwt am hanes a tharddiad y geiriau.