This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Bocs Erstalwm, Y
Peth ofnadwy ydi colli bywyd mewn niwl, a chwilio amdano fo ... a methu ... methu ei gael yn ôl. Mae Lydia yn gaeth i'r tŷ yn ystod cyfnod Covid, a'i meddwl yn ddryslyd. Ei bocs o luniau yw'r clo i'w hatgofion, ond mae rhai pethau'n rhy boenus i'w cofio. Bywgraffiad Awdur:
Mae Mair Wynn Hughes yn awdur dros gant o gyfrolau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Enillodd Wobr Tir na n-Og bedair gwaith rhwng 1984 a 2007, a Gwobr Mary Vaughan Jones yn 2006 am ei chyfraniad i lenyddiaeth i blant. Roedd yn athrawes cyn iddi ymddeol, a hon yw ei nofel gyntaf er 2008.
Gwybodaeth Bellach:
Nofel am unigrwydd, am gariad ac am effaith ddinistriol dementia.
|
|
|