This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cam i Forgannwg, Gwent a Brycheiniog

  • £9.50
  • £0.00
  • Cam i Forgannwg, Gwent a Brycheiniog
  • ISBN: 9781845278649
  • Rhys Mwyn
  • Cyhoeddi: Mawrth 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 280 tudalen

Dewch am dro i dde-ddwyrain Cymru yn yr olaf o bedair cyfrol gynhwysfawr Rhys Mwyn ar archaeoleg Cymru.

Bywgraffiad Awdur:

Ar ôl dilyn cwrs gradd mewn archaeoleg, bu Rhys Mwyn yn ffigwr amlwg yn y byd pop Cymraeg am ddegawdau, fel aelod o gr?p Yr Anhrefn ac fel rheolwr a hyrwyddwr. Yn ddiweddar, dychwelodd i'r byd archaeolegol ac erbyn hyn mae'n tiwtora ac yn arwain teithiau hanesyddol ledled Cymru. Mae ei golofn boblogaidd yn Yr Herald Cymraeg yn adlewyrchu ei ddiddordeb ysol yn y maes.

Mae'n byw yng Nghaernarfon gyda'i wraig a'u dau fab.

Cyhoeddodd Cam i'r Gorffennol yn 2014, Cam Arall i'r Gorffennol yn 2016 a Cam i'r Deheubarth yn 2019.

Gwybodaeth Bellach:

Cawn ein tywys drwy hanes cyfoethog yr ardal yn arddull unigryw yr awdur, ac mae mapiau i gyd-fynd â phob pennod er mwyn arwain y darllenydd ar deithiau cerdded i ymweld â'r safleoedd a'r cofadeiliau. Cyfrol ddifyr, hawdd ei darllen sy'n codi'r llen ar hanes cynharaf ein gwlad, ac yn mentro i dir archaeoleg fodern.