This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Chwerwfelys
- ISBN: 9781845278076
- Rebecca Roberts
- Cyhoeddi: Tachwedd 2021
- Fformat: Clawr Meddal, 199x127 mm, 234 tudalen
Dilyniant i'r nofel boblogaidd Mudferwi, a gyhoeddwyd yn 2019. Mae Alys yn byw ei breuddwyd yn rhedeg bwyty llwyddiannus yn Nyffryn Clwyd gyda'i chariad, Duncan. Ond pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia, mae'n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â'r bwyty.
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.
Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a gafodd ei chyhoeddi yn Hydref 2020 gan Wasg Carreg Gwalch, ac mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif ir gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod ir brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd ar Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer oi heiddo gan gwmni cynhyrchu.
Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg oi gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn gynharach yn 2020.