This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cofio'r Wylfa

  • £8.50
  • £0.00
  • Yr Wylfa a'i Haelwydydd
  • ISBN: 9781845277901
  • Emlyn Richards
  • Cyhoeddi: Ebrill 2021
  • Darluniwyd gan Wil Rowlands
  • Fformat: Clawr Meddal, 210 x 148 mm, 150 tudalen

Hanes ardal y Wylfa a'i thrigolion. Canolbwyntio ar y cartrefi a gollwyd a'r teuluoedd a ddadwreiddwyd wrth adeiladu'r atomfa a wna'r Parchedig Emlyn Richards, meistr ar adrodd straeon pobol ac un a ymgyrchodd yn erbyn yr atomfa.

Gwybodaeth Bellach:   Difethwyd safleoedd archaeolegol; baeddwyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardal Cadwraeth Arbennig sydd o bwys rhyngwladol.

Cefnodd y cwmni Hitachi ar y prosiect £20 biliwn ym Medi 2020. O leiaf osgowyd y perygl gwirioneddol o drychineb niwclear ar y safle ar ben popeth arall.

Canolbwyntio ar y cartrefi a gollwyd a'r teuluoedd a ddadwreiddwyd y mae'r gyfrol hon. Hanes pobol sydd yma gan feistr ar adrodd straeon pobol. Ymgyrchodd y Parchg Emlyn Richards hefyd yn lew yn erbyn yr atomfa. Er llwyddiant yr ymgyrch honno, roedd yn rhy hwyr i arbed dileu'r gymuned oedd ar y tir hwnnw. Bro goll fel Cwm Elan, Claerwen, Llanwddyn, Epynt a Thryweryn yw'r Wylfa heddiw.

Ond dyma ddeunydd a all ysbrydoli ymgyrch y gr?p 'Wylfa Ni' a'i gefnogwyr i ailfeddiannu'r safle a grymuso'r gymuned leol gyda datblygiad cynaliadwy. Cyflwynedig i bobol Cemaes Ddoe a Heddiw