This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Deryn Du

  • £5.00
  • £0.00
  • ISBN: 9781845273590
  • Awdur: David Harrower 
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Bryn Fôn
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2011
  • Fformat: Clawr Meddal, 182x124 mm, 112 tudalen

Disgrifiad Gwales
Does dim yn ddu a gwyn yn llwydni hunan-dwyll drama ingol David Harrower. Mae cysgodion cam-drin rhywiol a chwant yn plethu drwy gariad a gobaith y gorffennol, yn suro\'r presennol a difetha\'r dyfodol. Perfformiwyd y ddrama Gymraeg gan Theatr Bara Caws yn ystod gwanwyn 2010.

Bywgraffiad Awdur:
Dechreuodd Bryn Fôn ei yrfa fel actor yn 1979. Ymaelododd â Chwmni Bara Caws yn 1982, a rhwng 1990 a 2010 ysgrifennodd ac addasodd nifer o ddramâu a sioeau clybiau yn cynnwys Yr Alamo, Jac yn y Bocs, April in Paris a Lucky Sods (John Godber) a Blackbird gan David Harrower. Mae wedi ysgrifennu yn eang ar gyfer y teledu: Rhew Poeth (Ffilmiau’r Nant), Lôn Goed (Ffilmiau Bryngwyn) a’r ffilm Y Beicar i Gwmni Eryri. Bu hefyd yn olygydd sgriptiau ar y gyfres boblogaidd Iechyd Da.

Gwybodaeth Bellach:
‘Ie, drama am y tir llwyd diddorol hwnnw rhwng y du a’r gwyn yw hon, un sy’n cyffwrdd ar themâu megis natur y gwirionedd, edifeiriwch, maddeuant a phenyd. Cyflëwyd y cwbl yn gelfydd yng nghynhyrchiad Bara Caws, gyda pherfformiadau grymus gan y ddau actor. Roedd eu meistrolaeth ar iaith y corff yn ategu eu gafael ddi-feth ar y sgript. Roedd y sgript honno, a oedd wedi’i haddasu i gyd-destun Cymreig, yn ystwyth heb olion cyfieithu.’

Menna Baines, adolygiad o gynhyrchiad Bara Caws o Deryn Du, Barn

‘Un o uchelfannau y Theatr Gymraeg yn 2010 a thu mewn i’r uchelfan yr oedd uchafbwyntiau – actio tan gamp a sgript feistrolgar – ac er mai cyfieithiad ydoedd fe’i Cymreigiwyd yn y fath fodd fel y teimlai yn ddrama wreiddiol. A’r thema wrth gwrs – yr ymdriniwyd ag o yn sensitif-gelfydd heb lastwreiddio dim ar ei ysgelerder.’
Aled Jones Williams