This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Diolch Dewi! - Ffrindiau yn Cofio

  • £11.99

Cyfrol i gofio am Dewi Pws.

Gydag atgofion....
- dyddiau cynnar, gwersylloedd yr Urdd, y New Ely, Y Tebot Piws, Cwmni Theatr
- perfformiadau llwyfan a theledu, Edward H., Mynediad am Ddim
- Aberystwyth, Tre-saith, Golff, Y banjo, Radwm
- Glannau Menai, Nefyn a'r Parti Mawr yn Llŷn
- Drwy'r bröydd
- Y Dyn Creu

  • ISBN: 9781845279653
  • Cyhoeddi: Mehefin 2025
  • Fformat: Clawr Meddal, 240x168 mm, 152 tudalen

Adolygiad o Ffrindiaun Cofio - Diolch Dewi!

Llyfr fydd yn cael ei ddarllen trwy ddagrau, gwenau a phyliau iach o chwerthin ydy Diolch Dewi!Er y trefniant cronolegol o fywyd a gwaith Dewi Pws, dyma lyfr y gellir ei agor ar unrhyw dudalen a chael eich tynnun syth i fyd y cymeriad y mae Cymru ai pobl wedi cael y fath fraint oi alwn un on cydwladwyr. Yn hynny o beth maer teitl Diolch Dewi!yn gwbl addas ac yn adrodd calon y gwir am un oedd yn ffrind i bawb ac fel dywed un or cyfranwyr, yn ymgorfforiad or gair hwnnw syn cael ei gam ai orddefnyddio - unigryw. Dyma flas or cyfraniad hwnnw …

Sut byddech chi yn ei ddisgrifio (Dewi) mewn un gair?, fe fyddai nifer fawr o bobl yn ei ddisgrifio fel person unigryw. Gair efallai syn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun â thalent go arbennig. Ond nid rhywunoedd Dewi. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru wedii ddisgrifio ir dim - Un na fu arall oi fath yn bod; ar ei ben ei hun; heb ei debyg; digyffelyb; dihafal digymar; neilltuol a nodedig. Ia, Mewn gair - Dewi. 

Fel gwyr pawb sydd wedi derbyn y dasg o dalur diolchiadaupeth hynod beryg ond hawdd ei wneud ydy anghofio enwi pob cymwynaswr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr achlysur dan sylw. Er i mi ddyfynnu un or cyfranwyr, gwell peidio enwi yr un ohonynt, yn hytrach dweud fod pob cyfraniad yn creu cyfanwaith o Ffrindiaun Cofio. Oi fagwrfa yn Nhrebôth, ai grwydro aflonydd rhwng gwlad a dinas ai angor yn Nefyn ceir darlun oi fywyd, ei athrylith ai angerdd dros Gymru gan y bobl oedd yn ei adnabod orau ac sydd yn teimlor rhwyg llym oi golli.

Cymru dlawd fyddai honno heb ei Thepot Piws, ei Nwy yn y Nen, Wayne Cwmderi ac Islwyn Glanrafon. Tlotach fyth heb Edward H, Grand Slam a Torri Gwynt, a thrwyr ysgrifau sydd rhwng dau glawr y gyfrol hon dawr diolch yn ddidwyll am gyfraniad, direidi a dwyster Dewi Pws.

Cyfeiria sawl un at y dwyster hwnnw, y gwrthbwynt ir herio ar tynnu coes, y canol llonydd oedd yn datguddioi hun ar adegau fel canur geiriau

Weithiau yn y nos rwyt tin clywed eu lleisiau

Ffrindiau coll syn dod rhwng cyfnos a gwawr.” 

oddi ar y Maen Llog yn Eisteddfod Boduan, ar chwithdod o beidio ei weld nai glywed ymhen y flwyddyn ym Mhontypridd. Gadawodd Dewi Pws fwlch anferth oi ôl, bwlch maer gyfrol hon yn ei gydnabod ac yn cadwr cof yn llawn chwerthin, yn annwyl ddagreuol ac yn hynod ddiolchgar am fywyd Dewi Pws. 

Gerallt Pennant, 7 Mai 2025.